Hawl i deithio ar 80 milltir yr awr?

Rhifyn 9 - Ar y ffordd
Hawl i deithio ar 80 milltir yr awr?

Mae'r llywodraeth yn ystyried codi terfyn cyflymder ar y draffordd o 70 milltir yr awr (m.y.a.) i 80 m.y.a erbyn 2013. Ond mae ymgyrch i wrthwynebu'r syniad.

h3_1.jpgY ddadl o blaid

  • Yn 1965 cafodd 70 m.y.a. ei osod fel y terfyn cyflymder. Ers hynny, mae ceir yn llawer mwy diogel.
  • Mae gostyngiad o 75% wedi bod yn nifer y rhai sy'n cael eu lladd ar y ffyrdd ym Mhrydain ers y 1960au.
  • Mae tua 49% o yrwyr yn gyrru dros 70 m.y.a. fel mae hi ar hyn o bryd.
  • Bydd yr economi'n gwella os bydd ceir a lorïau'n gallu teithio'n gynt.
  • Mae traffyrdd wedi gwella, felly mae'n bosib gyrru'n gynt heb yrru'n beryglus.
  • Os yw'r tywydd yn wael (e.e. glaw trwm neu niwl) bydd hi'n bosib tynnu'r terfyn cyflymder yn ôl i lawr.
  • Os bydd unrhyw un yn gyrru dros 80 m.y.a., byddan nhw'n cael eu cosbi'n llym.
  • Does dim terfyn cyflymder ar draffyrdd mewn rhai gwledydd, e.e. yr Almaen.

h3_2.jpgY ddadl yn erbyn

  • Efallai bod ceir wedi gwella, a bod traffyrdd wedi gwella. Ond a ydy sgiliau gyrwyr wedi gwella? Bydd mwy o ddamweiniau, mwy o waith i ysbytai a mwy o bobl yn marw.
  • Bydd ceir yn llosgi mwy o danwydd. Felly mae dadl amgylcheddol yn erbyn codi'r terfyn cyflymder. Felly, bydd cyrraedd cyfarfod bum munud yn gynt yn costio'n ddrud mewn tanwydd.
  • Bydd pobl anghyfrifol yn teithio ar 90 m.y.a.
  • Mae traffig yn fwy dwys ar draffyrdd y DU, o'i gymharu â thraffyrdd Ffrainc neu'r Almaen.
Car teulu o'r 1960au

hen_gar.jpgCafodd y terfyn cyflymder 70 m.y.a hwn ei gyflwyno ym mis Rhagfyr 1965. Cyn hyn, doedd dim terfyn cyflymder ar ffyrdd ym Mhrydain. Ar y pryd, doedd car teulu cyffredin ddim yn gallu mynd yn gynt na 70 m.y.a. beth bynnag. Cyn i'r terfyn cyflymder gael ei gyflwyno, roedd llawer o ddamweiniau wedi digwydd mewn niwl trwchus ar draffordd newydd yr M1.

Erbyn heddiw, mae car teulu cyffredin yn gallu teithio hyd at 120 m.y.a.

Lluniau: Lee HaywoodBrian Snelson a Leo Reynolds.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
ymgyrch 'brwydr' pobl sydd yn erbyn rhywbeth campaign
gwrthwynebu bod yn erbyn rhywbeth oppose
terfyn cyflymder chewch chi ddim mynd yn gynt na hyn speed limit
gostyngiad llai o nifer reduction
yn llym yn hallt, yn ddifrifol severely
tanwydd mae'n cael ei losgi i redeg injan fuel
dadl amgylcheddol dadl sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd environmental argument
dwys trwm intense
dros dro am ychydig yn unig temporary