Pontydd Aber Afon Hafren

Rhifyn 9 - Ar y ffordd
Pontydd Aber Afon Hafren

Wrth deithio o dde Cymru i Loegr ar yr M4, byddwch chi'n croesi aber afon Hafren ar un o bontydd Hafren. Ond ers rhyw hanner can mlynedd yn unig mae'r pontydd yn bod - cyn 1966 roedd yn rhaid i geir fynd ar fferi o Beachley i Aust.

Pont Hafren

Roedd Thomas Telford (a gynlluniodd bont Menai) wedi awgrymu cael pont yn 1824, ond roedd llawer o broblemau peirianyddol. Bu'n rhaid aros tan 1966 cyn i'r bont gael ei chodi. Pont grog yw hi, ac ar y pryd, roedd yn un o brosiectau peirianyddol mwyaf blaenllaw'r byd ac enillodd hi lawer o wobrau. Dyma wybodaeth gryno amdani:

  • Cost: £8 miliwn
  • Hyd: 0.99 milltir (1.6 km)
  • Uchder y tyrau uwchben yr afon: 136 m
  • Cymerodd hi 5 mlynedd i'w chodi
  • Agorwyd hi ar 8 Medi 1966
  • Cafodd ei chryfhau yn niwedd yr 1980au
  • Mae tua 15,000 o gerbydau'r dydd yn ei chroesi (25% o'r cerbydau sy'n croesi'r aber)

pont_hafren_2.jpg

Lluniau: Kevin Wallis

Ail groesfan Hafren

Erbyn diwedd yr 1980au, roedd llawer mwy o draffig ar yr M4 a doedd y bont wreiddiol ddim yn ymdopi'n dda. Felly, penderfynwyd codi ail bont a dechreuwyd ar y gwaith yn 1992. Mae rheiliau arbennig ar y bont sy'n torri ar gryfder y gwynt, felly does dim rhaid i gerbydau deithio'n araf yn aml os bydd gwyntoedd mawr. Mae Pont Hafren (y bont gyntaf) yn gorfod cael ei chau oherwydd gwyntoedd mawr.

Dyma fanylion ail groesfan Hafren:

  • Cost: £300 miliwn
  • Hyd: 3.2 milltir (5.1 km)
  • Cymerodd hi 4 blynedd i'w chodi
  • Agorwyd hi ar 5 Mehefin 1996
  • Mae hi'n cario tua 45,000 o gerbydau'r flwyddyn (75% o'r cerbydau sy'n croesi'r aber)
  • Pont Shoots yw enw'r brif bont; mae hi'n 947m o hyd

Tollau

tollau.jpg

Rhaid talu toll i groesi'r ddwy bont, ac ar hyn o bryd, dyma'r prisiau: 

Cerbyd Pris
Cerbyd hyd at 9 sedd  £6.00
Bws hyd at 17 sedd / Cerbyd nwyddau hyd at 3,500 Kg £12.10
Bws 18 sedd a mwy / Cerbyd nwyddau o 3,5000 Kg £18.10

Mae tollau pont Hafren (y bont gyntaf) yn cael eu casglu ar ochr Lloegr. Yn fuan ar ôl agor y bont, ysgrifennodd y bardd Harri Webb y pennill Saesneg hwn:

Two lands at last connected

Across the waters wide,

And all the tolls collected

On the English side. 

Ar yr ail groesfan, mae'r tollau'n cael eu casglu ar ochr Cymru (ond gan y cerbydau sy'n dod i mewn i Gymru).

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
peirianyddol yn gysyllteidig â pheirianneg engineering
cryno byr concise
pont grog pont sy'n cael ei hongian wrth geblau suspension bridge
blaenllaw amlwg, yn arwain y maes prominent, cutting-edge