Ymysg Lladron

Rhifyn 9 - Ar y ffordd
Ymysg Lladron

Lladron Penffordd

e1_1.jpgYn y darn hwn, mae T. Llew Jones yn disgrifio rhywbeth sy'n digwydd i Ledi Eluned o Dregaron ar ei ffordd i Lundain yn y goets fawr gyda Neli, ei morwyn. Mae 4 person arall yn y goets hefyd:

  • dyn sy'n cario bag lledr
  • cyfreithiwr
  • dynes dew
  • dyn distaw 

Yr oedd hi'n arllwys y glaw o hyd ac yn dywyll fel bol buwch. Teimlai'r Ledi Eluned ei thraed yn oer a cheisiodd eu gwthio'n ddyfnach i'r gwellt ar lawr y goets. Glaw, glaw glaw! On'd oedd hi wedi bwrw bob dydd ers wythnosau? A dyma hi nawr yn glawio'n waeth nag erioed. Meddyliodd am y teithwyr ar ben y goets. Roedd y rheiny allan yn y tywydd. Druan ohonynt! Teimlodd yn anesmwyth braidd am ei bod mewn cymaint gwell amgylchiadau na hwy. Roedd y daith yn ddigon anghysurus iddi hi a'r lleill tu mewn i'r goets, ond aeth ias drwyddi wrth feddwl am y rhai a oedd tu allan. Rhaid eu bod yn wlyb hyd at eu crwyn a bron rhewi. 

. . . . .

            "Windsor," meddai'r dyn â'r bag, ond ni chymerodd neb sylw. Trodd y dyn distaw i edrych allan drwy'r ffenestr. Cyn bo hir yr oedd y goets wedi gadael Windsor ar ôl, ac unwaith eto teithient drwy'r wlad dywyll. Caeodd y Ledi Eluned ei llygaid. Teimlai'n flinedig iawn.

            Yn sydyn, clywodd sŵn gweiddi uchel, a stopiodd y goets mor sydyn nes taflu pob un ohonynt bron allan o'u seddau. Edrychodd y Ledi Eluned allan drwy'r ffenest, ond ni allai weld dim. Trodd yn ôl i holi ei chyd-deithwyr beth oedd yn bod, a chafodd sioc i weld fod y dyn distaw ar ei draed. Cafodd fwy o sioc fyth pan welodd bistol mawr du yn ei law

.  . . . .

            "Allan â chi bob un," meddai'r dyn â'r pistol. Neidiodd ef i lawr i'r ffordd yn gyntaf a safodd wrth y drws nes bod pawb wedi disgyn.

            "Mei Ledi! Mei Ledi! Be' sy'?" sibrydodd Neli â'i llais yn crynu.

            "Sh, Neli, fe fydd popeth yn iawn."

            "Ond . . . ?" Gwasgodd ei meistres ei llaw.

            e1_2.jpgYr oedd y rhai a oedd yn teithio ar ben y goets wedi disgyn i'r llawr erbyn hyn hefyd. O'u blaen, bron tu allan i gylch y golau o lampau'r goets, eisteddai dyn ar gefn ceffyl du, llonydd. Yr oedd mwgwd am ei wyneb a daliai bistol ymhob llaw. Ni ddywedodd yr un gair, dim ond sefyll yn fygythiol â'i lygaid yn gwylio pob symudiad. Gwyddai pawb yn awr pwy oedd wedi stopio'r goets. Gwyddent hefyd eu bod yng ngafael dau leidr pen ffordd. Ond ble'r oedd y lleidr a oedd yn teithio yn y goets? Nid oedd sôn amdano. Ond ni fuont yn hir cyn cael gwybod. Yn sydyn dechreuodd y bagiau a oedd ar ben y goets ddisgyn ar y llawr a chyn bo hir daeth y lleidr i lawr o ben y goets. Tynnodd gyllell o'i boced a dechrau torri rhwyg ymhob un. Gwibiodd ei fysedd yn gyflym trwy gynnwys pob bag...

            Erbyn hyn roedd y lleidr wedi gorffen archwilio'r bagiau. Yn awr yr oedd ganddo sach gynfas yn ei law, a honno'n hanner llawn. Yna trodd at y teithwyr. Edrychodd drostynt yn fanwl a'i lygaid yn disgleirio yn y golau. Gwelodd y ddynes dew yn codi ei llaw at ei gwddf a daeth gwên fileinig dros ei wyneb creulon. Aeth gam yn nes ati. Cododd ei law a chydiodd yn drwsgl yng ngholer ffwr ei chot deithio... Rhoddodd y wraig ochenaid uchel, ond tynnodd y rhaff ddisglair oddi ar ei gwddf a'i rhoi i'r lleidr. Daliodd hwnnw hi yn ei law am eiliad gan edrych arni. Yna gwenodd eto a thaflodd hi i'r sach...

 Ymysg Lladron, T. Llew Jones, Gwasg Gomer.

Y Goets Fawr

Cyn yr 1840au, pan ddaeth y rheilffyrdd i Gymru,  mynd ar y goets fawr oedd y ffordd gyflymaf o deithio. Cerbyd pedair olwyn oedd y goets, gyda phedwar o geffylau yn ei thynnu. Oherwydd bod post yn cael ei anfon ar y goets, roedd yn gyflym ac yn ddibynadwy. Byddai'r goets yn aros mewn tafarndai ar hyd y ffordd lle byddai'r teithwyr yn cael bwyd a diod, a'r ceffylau'n cael eu newid.

e1_4.jpg

Fel y gwelwn ni yn y darn allan oYmysg Lladron, roedd lladron pen ffordd yn berygl mawr i'r rhai oedd yn teithio mewn coets. Doedd pobl ddim yn defnyddio banciau i gadw eu harian a'u pethau gwerthfawr yn ddiogel yn y cyfnod hwn. Hefyd, roedd tywydd gwael y gaeaf, fel llifogydd ac eira mawr, yn beryglus iawn. Weithiau roedd damweiniau'n digwydd oherwydd bod gyrrwr y goets - y coetsmon - yn feddw.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
cyfreithiwr rhywun sy'n deall y gyfraith lawyer
crwyn mwy nag un croen skins
cyd-deithwyr y bobl eraill oedd yn teithio hefyd fellow travellers
bygythiol yn bygwth threatening
mileinig cas cruel
trwsgl lletchwith, garw clumsy
dibynadwy rydych chi'n gallu dibynnu arno reliable