• mae'r dorf yn gweiddi er mwyn cefnogi'r timau
• mae'r capten yn gweiddi ar ei dîm er mwyn eu hannog
• mae'r dyfarnwr yn gweiddi ar y chwaraewyr weithiau er mwyn cael trefn.
Mae un tîm rygbi'n gweiddi'n uchel ar ddechrau gemau rygbi rhyngwladol.
Maen nhw'n gweiddi nerth eu pennau, gan symud eu cyrff a'u llygaid - ac, ar y diwedd, maen nhw'n tynnu tafod ar y tîm arall.
Pwy? Tîm y Crysau Duon o Seland Newydd.
Pam? Mae'r gweiddi yma'n rhan o'u traddodiad nhw. Yr enw ar y gweiddi a'r symudiadau yw Haka.
Yr Haka mwyaf poblogaidd cyn gêm rygbi yw'r "Ka Mate!"
Mae'n debyg ei fod wedi cael ei greu gan Te Rauparaha (1768-1849), a oedd yn bennaeth llwyth y Ngati Toa, yn Seland Newydd. Roedd e'n bennaeth dewr ond ar un adeg roedd rhaid iddo ffoi am ei fywyd rhag ei elynion. Aeth i dir pennaeth arall o'r enw Te Whareangi a gofyn a gâi guddio yno. Dywedodd Te Whareangi y câi guddio mewn pydew, sef pwll mawr, tywyll yn y ddaear, lle roedd tatws melys yn cael eu cadw.
Daeth y gelynion i chwilio am Te Rauparaha ac roedd e'n ofni ei fod yn mynd i farw. Ond ciliodd y gelynion a sylweddolodd Te Rauparaha ei fod e'n ddiogel. Daeth Te Whareangi i'w ollwng yn rhydd o'r pydew.
Daeth Te Rauparaha allan o'r pydew a chanodd yr Haka i ddiolch iddo. Mae'n debyg fod gan Te Whareangi lawer o wallt ac mae'r Haka'n sôn am "y dyn blewog".
Mae'r Haka'n gallu codi ofn ar y tîm arall, ond yn ogystal â hynny, mae'n brofiad arbennig i dîm y Crysau Duon eu hunain. Dychmygwch y profiad - maen nhw'n sefyll ar gae rygbi mewn gwlad arall, o flaen miloedd o gefnogwyr y tîm arall, ond maen nhw'n cofio gyda balchder am eu gwlad nhw eu hunain wrth iddyn nhw berfformio'r Haka. Mae'n brofiad emosiynol iawn!
Os ydych chi eisiau gweld tîm y Crysau Duon yn gwneud yr Haka, cliciwch yma:
http://www.youtube.com/watch?v=tdMCAV6Yd0Y
Heddiw, mae'r dorf yn Stadiwm y Mileniwm yn canu 'Hen Wlad fy Nhadau' ar ddechrau gemau rhyngwladol. Y tro cyntaf i hyn ddigwydd oedd yn 1905, ar ddechrau'r gêm rhwng Cymru a Seland Newydd neu'r Crysau Duon.
Pam ganon nhw'r anthem? Er mwyn ateb Haka y Crysau Duon.
Roedd hon yn gêm anhygoel!
Roedd y Crysau Duon yn dîm ardderchog ac roedden nhw'n dod i Gymru heb gael eu curo gan unrhyw dîm arall. Roedden nhw wedi curo Awstralia (14-3), Yr Alban (12-7), Iwerddon (15-0) a Lloegr (15-0), ac felly roedden nhw'n barod i guro Cymru hefyd.
OND …
Cymru enillodd:
Cymru: 3 Seland Newydd: 0
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
annog | dweud wrthyn nhw am wneud eu gorau | to encourage |
cael trefn | trefnu pobl, dweud wrthyn nhw beth i’w wneud | to organize |
dyfarnwr | refferi | referee |
tynnu tafod | dangos eu tafod | to stick out their tongue(s) |
traddodiad | hen arfer | tradition |
llwyth | grŵp o bobl o'r un ardal fel arfer | tribe |
ffoi | rhedeg i ffwrdd | to flee |
tatws melys | llysiau arbennig oedd yn tyfu yn yr ardal | sweet potatoes |