Edrychwch ar y llun yma:

y_sgrech.jpg

Teitl:
Skrik (Y Sgrech neu The Scream)
Arlunydd:
Edvard Munch (1863-1944)
O ble:
Norwy
Dyddiad y llun:
1893, er bod Munch wedi creu gwahanol fersiynau ar adegau gwahanol

Bu farw rhieni, brawd a chwaer yr arlunydd pan oedd e'n ifanc. Efallai bod hyn yn egluro pam mae llawer o'i luniau'n drist ac yn besimistaidd.

Llun byd enwog

Mae'r llun yn dangos rhywun mewn poen. Dydyn ni ddim yn gwybod ai dyn neu ddynes sydd yn y llun - ond mae'r person yma'n sgrechian. Pam, tybed?

Mae'r llun yma'n enwog iawn, iawn. Yn wir, dyma lun mwyaf enwog Edvard Munch ac mae'n werth miliynau o bunnau.

Mae'r llun wedi cael ei ddwyn ddwywaith:

  • 1994: Daeth lladron i Oriel Genedlaethol Norwy, Oslo, a dwyn fersiwn o'r llun. Wrth iddyn nhw adael, gadawon nhw'r neges yma ar gyfer swyddogion yr Oriel, "Diolch am y diogelwch gwael". Daeth yr heddlu o hyd i'r llun rai misoedd yn ddiweddarach.
  • 2004: Cerddodd lladron i mewn i Amgueddfa Munch, Oslo, yng ngolau dydd. Roedden nhw'n gwisgo mygydau ac yn cario gynnau. Cymeron nhw'r llun a cherdded allan. Daeth yr heddlu o hyd i'r llun yn 2006.
Ffilm arswyd

Ydych chi wedi gweld y ffilm 'Scream'?

Ffilm arswyd yw hi ac mae rhywun yn mynd o gwmpas yn lladd pobl! Mae'r llofrudd yn gwisgo mwgwd sy'n debyg iawn i'r wyneb yn llun Edvard Munch.

Mae'r mwgwd hwn yn un o'r gwisgoedd ffansi Calan Gaeaf mwyaf poblogaidd!

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
yn besimistaidd trist, heb lawer o obaith pessimistic
oriel adeilad neu ystafell i ddangos gwaith celf gallery
swyddogion pobl sy’n gyfrifol am rywbeth officers
diogelwch system i gadw pethau’n ddiogel security
amgueddfa adeilad lle mae pethau diddorol yn cael eu cadw, e.e. pethau hanesyddol museum
mygydau mwy nag un mwgwd – i guddio’r wyneb masks