Fe'ch gwahoddir i ginio arbennig i ddathlu
Pen-blwydd Cynthia Harris-Taylor

Yn:     Castell Cefn Coed
Ar:      Ddydd Sadwrn, 29 Hydref
Am:    12.30

Gwisg ffurfiol os gwelwch yn dda

                                                         ***

"Croeso i fy mharti pen-blwydd," dywedodd Cynthia yn y lolfa fawr yn yr hen gastell. "O, dw i mor lwcus yn cael dathlu fy mhen-blwydd yn 50 oed gyda fy hoff bobl yn y byd!"

Edrychodd y grŵp bychan ar ei gilydd. "Hoff bobl yn y byd?" Nhw oedd yr unig rai oedd wedi derbyn y gwahoddiad a'r unig reswm roedden nhw yma oedd bod rhaid iddyn nhw ddod.

"Bobl bach … hanner cant - a dw i ddim yn edrych ddiwrnod yn fwy na thri deg!" aeth Cynthia yn ei blaen.
"Hy!" meddyliodd Marc, ei mab-yng-nghyfraith. "Dim mwy na thri deg wir!  Rwyt ti'n edrych yn saith deg o leiaf, yr hen sguthan greulon, hunanol, falch!" Doedd Marc ddim yn hoffi ei fam-yng-nghyfraith! Roedd hi'n meddwl ei bod hi'n well na phawb arall ac roedd hi bob amser yn ei fychanu e. Roedd hi mor wahanol i'w merch, Catrin, ei wraig e!

"Mam, rhaid i fi fynd allan i'r ardd am awyr iach," dywedodd Cai. Roedd e'n 25 oed, yr un oed â Catrin, ei efaill.
"O? Wyt ti'n teimlo'n sâl?" gofynnodd Cynthia i'w mab.
"Ychydig - ond bydda i'n well ar ôl cael awyr iach."
"Mi ddo i gyda ti," awgrymodd Bruce, tad Cai.
"Na, na!" atebodd Cai braidd yn rhy sydyn. Y gwir oedd bod Cai wedi trefnu i gyfarfod â Lois yn yr ardd. Roedd hi'n gariad iddo ac roedd hi'n gweithio yn yr hen gastell.
"Na wnei wir," atebodd Cynthia'n benderfynol. "Yma mae dy le di - yma, gyda dy wraig!"

Druan  o Bruce. Roedd e wedi cael bywyd anodd yn byw gyda Cynthia am dri deg o flynyddoedd. Roedd hi'n ddynes anodd iawn!

"Ga i ddod allan gyda ti am funud neu ddwy?" gofynnodd Catrin.
"O, iawn, os wyt ti eisiau," atebodd Cai. Roedd Catrin yn gwybod am Lois. Roedd hi a Cai wedi cadw'n dawel am berthynas Cai a Lois ers tri mis oherwydd roedd y ddau'n gwybod na fyddai Lois byth yn plesio'u mam. Gallen nhw ddychmygu beth fyddai hi'n ei ddweud petai'n gwybod am y berthynas, "Ti, gyda dy swydd ardderchog yn y banc … yn mynd allan gyda morwyn …!" Roedd hi wedi gwneud digon o ffỳs pan ddywedodd Catrin ei bod hi am briodi Marc, ddwy flynedd yn gynt.
"Priodi rhywun sy'n gweithio mewn siop?!" oedd sylw ei mam ar y pryd.
Na, doedd Cynthia ddim wedi derbyn perthynas Marc a Catrin - a fyddai hi byth yn derbyn perthynas Lois a Cai, felly gwell oedd peidio â dweud unrhyw beth - am y tro!

Roedd un person arall wedi dod i'r cinio pen-blwydd - Glenys, hen "ffrind" i Cynthia. Roedd hi'n byw ar ei phen ei hun ar yr un stryd. Roedd Cynthia yn ei galw hi'n "ffrind" oherwydd roedd hi wrth ei bodd yn ceisio rhedeg ei bywyd hi. Doedd Glenys ddim yn gallu gwneud unrhyw beth heb fod Cynthia'n dod i wybod amdano. Roedd gas gan Glenys Cynthia - yn enwedig gan iddi briodi ei chariad, dri deg o flynyddoedd yn ôl.

"Iawn, ewch chi'ch dau allan i'r ardd, ac fe gawn ni - eich tad, Glenys, Marc a fi - sgwrs fach yma o flaen y tân."
Tynnodd Marc wyneb y tu ôl i gefn Cynthia. Yn sydyn, fel petai wedi ei drefnu, dyma ffôn symudol Marc yn dechrau canu.
"Wel, wir!" ebychodd Cynthia. "Alli di ddim diffodd y peiriant yna hyd yn oed i gael cinio pen-blwydd gyda dy fam-yng-nghyfraith annwyl!"
Edrychodd Marc ar y ffôn i weld pwy oedd yn ffonio. Edrychodd i fyny a dywedodd, "Busnes!".
"Tybed beth ydy'r broblem nawr?" gofynnodd Cynthia. "Dy staff yn methu cyfrif faint yw pris dau dun o ffa pob efallai … neu efallai bod lladron wedi dwyn yr arian o'r til - tua phymtheg punt, mae'n siŵr."
Edrychodd Marc arni'n gas a cherddodd allan, gyda'r ffôn symudol wrth ei glust.
Dilynodd Cai a Catrin e tua'r cyntedd.
Yn sydyn, cododd Glenys ar ei thraed. "Dw i wedi anghofio'ch anrheg chi yn y car. Mi a i i'w nôl hi nawr. Tybed allech chi roi help llaw i fi, Bruce?"
Neidiodd Bruce ar ei draed, "Wrth gwrs!" a gadawodd y ddau heb ddweud yr un gair arall.
Aeth Cynthia i eistedd yn y gadair uchel oedd yn wynebu'r tân.

                                                          ***

"Mae'r bwyd yn barod!" dywedodd y forwyn wrth gerdded i mewn i'r lolfa rai munudau wedyn. "O, does neb yma," meddyliodd. "Ble mae pawb wedi mynd?"

Ond yna, gwelodd fod rhywun yn eistedd yn y gadair uchel oedd yn wynebu'r tân. Roedd y gadair yma'n wynebu oddi wrthi ac felly aeth i fyny ati.

"Mae'r bwyd yn... aaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaa."

Clywodd pawb y waedd uchel - Bruce, Glenys, Cai, Catrin a Marc - a rhuthrodd pawb tuag at y lolfa.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
fferyllydd rhywun sy’n gweithio mewn fferyllfa, yn paratoi ffisig ac ati chemist, pharmacist