Helo 'na!
Dw i wedi colli fy llais! Dw i wedi bod yn gweiddi a gweiddi - nerth fy mhen - mewn cystadlaethau athletau arbennig iawn yn Llundain - cystadlaethau Athletau Mewn Gwisg Swmo.
Dechreuodd y cystadlaethau yn y flwyddyn 2008 ac maen nhw eitha tebyg i'r athletau yn yr ysgol. Mae rasys 100 metr a 400 metr, cystadleuaeth naid hir a naid uchel a thaflu maen (shot put.) Mae enillwyr pob categori'n ennill medal ac mae'r athletwr gorau'n ennill medal arbennig.
Ond mae un gwahaniaeth pwysig rhwng y cystadlaethau yma a'r athletau yn yr ysgol. Rhaid i'r athletwyr yma wisgo dillad arbennig iawn. Rhaid gwisgo siwt Swmo - nid siorts a chrys T. Mae'r siwt yn llawn sbwng (foam) ac mae'n pwyso tua 11kg. Felly, mae symud y coesau a'r breichiau'n eitha anodd. Dyna pam dw i wedi bod yn gweiddi - dw i wedi bod yn trio annog rhai o'r cystadleuwyr mwyaf araf i redeg yn gynt!
Mae'r rheolau'n gwneud pethau'n anodd i'r cystadleuwyr. Wrth redeg, er enghraifft, rhaid aros o fewn eich lôn. Dychmygwch pa mor anodd yw hyn oherwydd y wisg Swmo enfawr!
Rhaid peidio â sefyll dros y llinell gychwyn ar ddechrau ras. Mae hyn yn gallu bod yn anodd gan ei bod yn anodd gweld y llinell - oherwydd y wisg Swmo enfawr!
Ac i wneud pethau'n waeth, dydych chi ddim yn cael codi'ch siwt wrth i chi redeg! Gallwch chi ddychmygu beth sy'n digwydd yn reit aml!
Wel, well i fi fynd i garglo er mwyn gweld ydw i'n gallu cael fy llais yn ôl. Pob hwyl am y tro!
Sam.