Nerth eu pennau

Rhifyn 1 - Gweiddi
Nerth eu pennau

s4c_4.jpgYdych chi'n gwylio rhaglenni Cymraeg ar S4C weithiau?

Mae llawer o wahanol fathau o raglenni wrth gwrs, e.e.

  • rhaglenni dogfen
  • rhaglenni cylchgrawn
  • rhaglenni byd natur
  • rhaglenni cerddoriaeth
  • rhaglenni chwaraeon
  • rhaglenni plant
  • dramâu
  • y newyddion a'r tywydd

heb sôn am yr opera sebon boblogaidd 'Pobol y Cwm'.

Gweiddi am sianel

Rydyn ni'n gallu gwylio S4C heddiw oherwydd bod pobl yn y gorffennol wedi bod yn gweiddi dros gael sianel Gymraeg. Roedd rhaid iddyn nhw weiddi nerth eu pennau!

Tan 1982, doedd dim sianel Gymraeg, er bod rhai rhaglenni Cymraeg yn cael eu dangos ar sianeli eraill. Doedd llawer o bobl Cymru ddim yn hapus â'r sefyllfa yma o gwbl. Roedden nhw'n dweud, "Rhaid i ni gael ein sianel ein hunain i ddangos rhaglenni Cymraeg bob nos."

Bu llawer o bobl yn protestio ac yn gweiddi. Gwrthododd rhai pobl dalu am eu trwydded deledu - mewn protest. Aeth rhai mor bell â dringo mastiau teledu uchel er mwyn ceisio tynnu sylw at y ffaith y dylen ni gael sianel Gymraeg.

Aeth un dyn yn bellach na hyn! Penderfynodd Gwynfor Evans, a oedd wedi bod yn arweinydd Plaid Cymru, ei fod e'n mynd i ymprydio - ei fod e'n mynd i fynd heb fwyd - hyd yn oed os oedd hynny'n arwain at ei farwolaeth.

Cafodd y llywodraeth yn Llundain dipyn o fraw ac, yn y diwedd, cytunon nhw i roi sianel Gymraeg i Gymru. (Prif lun, uchod: trwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.)

ffredagwynfor.jpg

Baner Cymdeithas yr Iaith ar fast teledu a Gwynfor Evans

Y dechrau

superted_ii.jpg

 

Felly, ar 1 Tachwedd 1982, am saith o'r gloch, daeth S4C i'r sgrin deledu am y tro cyntaf erioed. SuperTed oedd un o'r cymeriadau cyntaf i ymddangos ar y sgrin a daeth e mor boblogaidd fel y cafodd y straeon eu cyfieithu i'r Saesneg.

Ers hynny, mae llawer o wahanol fathau o raglenni Cymraeg a ffilmiau Cymraeg wedi cael eu creu ac rydyn ni'n gallu eu gwylio ar un sianel - diolch i'r bobl a fu'n gweiddi!