Mae gweiddi'n gallu bod yn beth cadarnhaol iawn, yn enwedig os ydych chi'n cefnogi rhywun mewn cystadleuaeth. Ond mae'n gallu bod yn negyddol iawn hefyd, yn enwedig os ydych chi'n gweiddi oherwydd eich bod chi'n teimlo'n flin, yn grac neu'n ddig!
Yn ôl arolwg diweddar, Prydain yw'r wlad fwyaf blin, crac neu ddig yn Ewrop. Dyma ble mae pobl yn colli eu tymer amlaf!
Mae'n debyg mai pobl yr Eidal sy'n dod yn ail a phobl Ffrainc sy'n drydydd.
Beth sy'n gwneud i bobl Prydain golli eu tymer, felly?
Dyma rai o'r achosion mwyaf cyffredin:
Wrth golli tymer, mae rhai pobl yn siarad yn uchel ac yn gweiddi! Dydy hyn ddim yn beth da i'r person sy'n gweiddi nac ychwaith i'r person neu'r bobl mae'n gweiddi arnyn nhw, fel mae'r e-bost yma at gylchgrawn pobl ifanc yn dangos:
Annwyl Kim
Dw i'n teimlo mor ddiflas!
Heddiw yn yr ysgol, roedden ni'n gweithio mewn grwpiau mewn cwis iaith. Roedd rhaid i ni edrych ar lun am ddwy funud ac yna, gofynnodd yr athro gwestiynau i bob grŵp yn ei dro - yn Sbaeneg.
Cawson ni gwestiwn yn gofyn ar ba ochr roedd yr haul. Doedd dau o'r grŵp ddim yn siwr, roeddwn i'n meddwl ei fod e ar y dde ond roedd Hanna'n dweud ei fod e ar y chwith. Yn y diwedd, penderfynodd y grŵp dderbyn fy ateb i - ar y dde.
Roeddwn i'n anghywir! Roedd Hanna'n gandryll! Gwaeddodd allan yn uchel, "Dyna ti! Fi oedd yn iawn! Rwyt ti'n hollol stupid. Rwyt ti bob amser yn meddwl dy fod ti'n iawn, on'd wyt ti, Clever Cloggs!"
Roeddwn i'n teimlo cymaint o embaras. Dw i'n dal i deimlo'r embaras! Fe wnaeth Hanna i fi deimlo'n fach iawn yn y dosbarth. Roeddwn i'n teimlo bod pawb yn edrych arna i a'u bod nhw'n gwneud hwyl am ben fy nhwpdra.
Hanna.
Does dim angen colli tymer a gweiddi pan fydd pethau'n mynd o chwith! Mae ffyrdd eraill o ddelio â'r sefyllfa bob amser.
Pan fydd rhai pobl yn teimlo'n flin, maen nhw'n cyfrif i ddeg cyn dweud neu wneud unrhyw beth. Mae rhai pobl yn cerdded i ffwrdd neu'n canu cân yn dawel bach. Mae meddwl am bethau da yn eich bywyd chi'n ffordd dda o ddelio gyda'r sefyllfaoedd yma ac mae siarad â rhywun yn gallu helpu. Cofiwch hefyd, os bydd rhywun yn gweiddi arnoch chi, efallai bod problemau gydag e / hi yn ei fywyd personol!
Da chi, peidiwch â gweiddi a cholli'ch tymer os ydych chi'n teimlo'n flin, yn grac neu'n ddig!
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
cadarnhaol | rhywbeth da sydd ddim yn negyddol | positive |
arolwg | casglu gwybodaeth drwy holiaduron neu holi pobl | survey |
anghwrtais | ddim yn gwrtais | discourteous, rude |
yn gyhoeddus | lle mae pobl eraill, ddim mewn lle preifat | in public |
yn gandryll | yn flin, yn grac neu’n ddig ofnadwy | furious, angry |
twpdra | bod yn dwp | stupidity |
o chwith | yn anghywir | wrong |
Da chi! | Er mwyn popeth! | For heaven's sake! |