Aeth Iolo 'da'r ysgol i'r ffatri
Gacennau a chwstard a jeli,
Ond syrthiodd i'r vat
A gwaeddodd ar Matt
"Rho raff i fi cyn i fi foddi."
I'r sŵ aeth y merched a'r bechgyn,
Pob un gyda'i got law a'i becyn,
Aeth Sam at y tsita
A chynnig ei bitsa
Ond bwytodd e Sam, pob briwsionyn.
Fe waeddodd Miss Jones fel gorila
A sgrechiodd pob mwnci ac epa,
Roedd tipyn o banig
A'r athro yn manig
Ond cnoi yn hamddenol wnâi'r tsita!
Aeth trip Blwyddyn 7 draw i'r ynys
A dyna i chi brofiad anfelys -
Fe welon nhw'r athro
Ar draeth yn torheulo
Mewn dim ond ei fest wen a'i dronsys!
Non ap Emlyn
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
pecyn | pecyn bwyd | packed lunch |
tsita | cath fawr sy’n gallu rhedeg yn gyflym | cheetah |
briwsionyn | darn bach (o fara fel arfer) | crumb |
anfelys | an + melys | unpleasant |
torheulo | trio cael lliw haul | to sunbathe |
tronsys | trons | underpants |
epa | anifail tebyg i fwnci | ape |