Toggle navigation
Gweiddi
  • Archive Hen rifynnau

Rhyfedd

Rhifyn 1 - Gweiddi
Rhyfedd

athletau gwahanol

Anfonwyd:Dydd Sul, 15 Awst 2010 08:37
Oddi wrth:sam@gwecym.org
At:gweiddi@tinopolis.com

Helo 'na!

Dw i wedi colli fy llais! Dw i wedi bod yn gweiddi a gweiddi - nerth fy mhen - mewn cystadlaethau athletau arbennig iawn yn Llundain - cystadlaethau Athletau Mewn Gwisg Swmo.

Dechreuodd y cystadlaethau yn y flwyddyn 2008 ac maen nhw eitha tebyg i'r athletau yn yr ysgol. Mae rasys 100 metr a 400 metr, cystadleuaeth naid hir a naid uchel a thaflu maen (shot put.) Mae enillwyr pob categori'n ennill medal ac mae'r athletwr gorau'n ennill medal arbennig.

Ond mae un gwahaniaeth pwysig rhwng y cystadlaethau yma a'r athletau yn yr ysgol. Rhaid i'r athletwyr yma wisgo dillad arbennig iawn. Rhaid gwisgo siwt Swmo - nid siorts a chrys T. Mae'r siwt yn llawn sbwng (foam) ac mae'n pwyso tua 11kg. Felly, mae symud y coesau a'r breichiau'n eitha anodd. Dyna pam dw i wedi bod yn gweiddi - dw i wedi bod yn trio annog rhai o'r cystadleuwyr mwyaf araf i redeg yn gynt!

Mae'r rheolau'n gwneud pethau'n anodd i'r cystadleuwyr. Wrth redeg, er enghraifft, rhaid aros o fewn eich lôn. Dychmygwch pa mor anodd yw hyn oherwydd y wisg Swmo enfawr!

Rhaid peidio â sefyll dros y llinell gychwyn ar ddechrau ras. Mae hyn yn gallu bod yn anodd gan ei bod yn anodd gweld y llinell - oherwydd y wisg Swmo enfawr!

Ac i wneud pethau'n waeth, dydych chi ddim yn cael codi'ch siwt wrth i chi redeg! Gallwch chi ddychmygu beth sy'n digwydd yn reit aml!

Wel, well i fi fynd i garglo er mwyn gweld ydw i'n gallu cael fy llais yn ôl. Pob hwyl am y tro!

Sam.

Tasgau

TASG 1

Mewn munud, ysgrifennwch restr o wahanol fathau o rasys. Y person â’r rhestr hiraf fydd yn ennill.

TASG 2

Lawrlwythwch y PDF a darllenwch y brawddegau yn y grid. Ydyn nhw'n gywir neu'n anghywir?

Mwy o’r rhifyn yma...

  • Trip yr ysgol

    Dyma limrigau digri am dripiau ysgol trychinebus - a chyfle i roi cynnig ar gyfansoddi eich limgrig eich hun...!

    Gwybodaeth
  • Y sgrech

    Mae 'na lun enwog o'r enw 'Y Sgrech'. Bu rhai'n barod i dorri'r gyfraith i gael gafael arno. Dyma fwy o hanes...

    Gwybodaeth
  • Y waedd

    Dyma stori am aduniad teuluol yn troi'n chwerw... Fedrwch chi ddatrys y dirgelwch?

    Gwybodaeth
Cynlluniwyd ac adeiladwyd gan Tinopolis Interactive.
Noddwyd gan Lywodraeth Cymru. © 2018
welsh government tinopolis interactive tinint