Y melinydd, ei fab a'r asyn

Rhifyn 1 - Gweiddi
Y melinydd, ei fab a'r asyn

Un tro, roedd melinydd a'i fab yn mynd â'u hasyn i'r ffair i'w werthu. Roedd y tri ohonyn nhw'n cerdded ar hyd y ffordd pan welon nhw grŵp o ferched. Gwaeddodd un ohonyn nhw'n uchel,

"Pam rydych chi'n cerdded? Ewch ar gefn yr asyn!"
Pan glywodd y melinydd hyn, dywedodd wrth ei fab am eistedd ar gefn yr asyn ac i ffwrdd â nhw eto.

                                                  ***

Ar ôl ychydig, gwelon nhw grŵp arall o bobl. Gwaeddodd un ohonyn nhw'n uchel,
"Edrychwch ar y bachgen ifanc yna'n reidio ar gefn yr asyn, a'i dad yn gorfod cerdded!"
Yna, gwaeddodd y dyn ar y bachgen ifanc, "Tyrd i lawr o gefn yr asyn yna a gad i dy dad eistedd arno!"
Daeth y bachgen i lawr ac aeth y melinydd ar gefn yr asyn ac i ffwrdd â nhw unwaith eto.

                                                   ***

Yna, gwelon nhw grŵp o wragedd a phlant.  Gwaeddodd un o'r gwragedd ar yr hen ddyn,
"Sut gallwch chi eistedd fan'na ar gefn yr asyn a gadael i'ch mab gerdded wrth eich ochr?"
Felly, dywedodd y melinydd wrth ei fab am neidio i fyny ar gefn yr asyn, y tu ôl iddo. 

                                                   ***

Erbyn hyn, roedden nhw'n agosáu at y dref lle roedd y farchnad. Daeth un o bobl y dref allan i gyfarfod â nhw. Gofynnodd i'r melinydd,
"Eich asyn chi ydy hwnna?"
"Ie, wrth gwrs," atebodd y melinydd.
"Wel, pam ar y ddaear ydych chi'n rhoi cymaint o bwysau arno? Does dim synnwyr bod y ddau ohonoch chi'n eistedd ar ei gefn! Druan o'r asyn! Byddai'n well petaech chi'ch dau'n ei gario fo na'i fod o'n eich cario chi!"
Felly, neidiodd y melinydd a'i fab i lawr o gefn yr asyn. Yna, clymon nhw ei draed a'i hongian wrth bolyn a dechreuon nhw gerdded tuag at y dref unwaith eto.

                                                   ***

Wrth iddyn nhw groesi pont a oedd yn rhedeg dros afon, dechreuodd llawer o bobl chwerthin am eu pennau.  "Am wirion," gwaeddodd ohonyn nhw. "Dyn a bachgen yn cario asyn!"
Dechreuon nhw weiddi a gwneud sŵn mawr. Dechreuodd yr asyn deimlo'n ofnus. Dechreuodd gicio a chicio, nes bod y clymau o gwmpas ei draed yn datod.
Yna, yn sydyn, syrthiodd yr asyn i'r afon a marw.

                                                   ***

Doedd dim amdani ond troi tuag adre, heb yr asyn, ond roedd y melinydd wedi dysgu gwers bwysig iawn y diwrnod hwnnw …

Oeddech chi'n gwybod...?

Un o chwedlau Aesop yw'r stori yma.

Pwy oedd Aesop?

108719759_1__206x344.png 

Does neb yn gwybod yn bendant pwy oedd Aesop ond mae'n bosib ei fod e'n byw yng ngwlad Groeg tua 620-560 CC ac efallai ei fod e'n gaethwas. Roedd e'n mwynhau adrodd chwedlau ond mae'n bosib nad fe gyfansoddodd pob un o'r straeon roedd e'n eu hadrodd. Mae'n debyg iddo gael ei ryddhau gan ei feistr gan ei fod e'n mwynhau chwedlau Aesop cymaint. Roedd Aesop yn adrodd chwedlau arbennig - chwedlau oedd yn cynnwys gwers - fel y chwedl "Y melinydd, ei fab a'r asyn". Roedd e'n eu hadrodd nhw er mwyn dysgu pobl.  Roedd y bobl, wedyn, yn adrodd y chwedlau wrth ei gilydd ac felly roedd y chwedlau'n cael eu pasio i lawr dros filoedd o flynyddoedd.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
melinydd dyn oedd yn gweithio mewn melin miller
tyrfa llawer o bobl a crowd
cwlwm, clymau ffordd o glymu rhywbeth knot,-s
datod dod yn rhydd to untie
caethwas rhywun oedd yn gorfod gweithio i rywun arall slave
rhyddhau gollwng yn rhydd to set free