Roedd y Rhufeiniaid yn hoffi defnyddio aur i wneud tlysau a llestri hardd. Y gair Lladin am 'aur' yw 'aurum' a'r un gair yw'r gair a ddefnyddiwn ni heddiw yn Gymraeg,
sef 'aur'. AU yw'r llythrennau sy'n dynodi aur ar y tabl cyfnodol.
| Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
|---|---|---|
| tlysau | pethau hardd | jewellry |
| llestri | rhywbeth i ddal bwyd | dishes, vessels |
| Lladin | iaith oedd y Rhufeiniaid yn ei siarad | Latin |
| darganfod | dod o hyd i rywbeth, ffeindio | find |
| meddal | rhywbeth sydd ddim yn galed | soft |
| plygu | newid siâp rhywbeth | bend |
| gorchuddio | rhoi rhywbeth ar ben rhywbeth arall | cover / coat |