Neithiwr fe ddaeth y mwynwr olaf allan i olau dydd yng ngwaith coprSan Jose ynChile. Roedd yna 33 wedi cael eu caethiwo o dan y ddaear am chwe deg naw o ddiwrnodau. Dechreuodd y cyfan pan ddymchwelodd darn o'r twneli oedd yn arwain tuag at yr wyneb. Am dros bythefnos, doedd dim unrhyw gyswllt â'r dynion, a nifer yn meddwl eu bod wedi cael eu lladd, ac na fydden nhw byth yn cael eu darganfod. Ond yna, gan ddefnyddio dril arbennig, tyllwyd drwodd i'r lle'r oedd y dynion.
Ysgrifennodd un o'r mwynwyr neges ar ddarn o bapur, a chlymu'r papur i'r dril. 'Estamos bien ên el refugio los 33,'[Rydyn ni'n iawn yn y lloches. Y 33.]
O'r eiliad honno ymlaen, dechreuodd ffrindiau a theuluoedd y dynion wersylla wrth geg y pwll er mwyn disgwyl iddyn nhw ddod allan. Erbyn y diwedd roedd cannoedd wedi casglu, a hyd yn oed mwy na hynny o ohebwyr teledu, radio a phapurau newydd o lefydd ar draws y byd.
O'r diwrnod hwnnw, fe ddechreuwyd ar y gwaith o geisio cael y dynion allan. Roedd y twll a dorrwyd gan y dril cyntaf yn ddigon mawr i anfon tiwbiau bach i lawr at y dynion. Roedd y rhain yn cynnwys bwyd, diod, meddyginiaeth a hyd yn oed grysau pêl droed eu hoff dimau. Roedd ysbryd y dynion wedi codi wrth iddyn nhw sylweddoli fod yr ymdrech i'w hachub wedi dechrau.
Dechreuwyd ar y gwaith o ddrilio tri thwll, a gweld pa dwll fyddai'n eu cyrraedd gyntaf. I ddechrau, dywedai'r awdurdodau ynChiley byddai'n cymryd hyd at y Nadolig i'w cael allan, ond fel yr âi'r gwaith yn ei flaen, sylweddolwyd y byddai'n bosib cyrraedd y dynion dipyn cynt na'r disgwyl.
Enw arweinydd y dynion yn y pwll oedd Luis Urzua. Ef oedd pennaeth y sifft pan ddigwyddodd y ddamwain, ac ef hefyd oedd yr un a ddefnyddiodd ei holl dalentau arwain i wneud yn siŵr fod pawb yn cyd-dynnu ac yn goroesi'r wythnosau hirion o dan ddaear.
Aeth yr awdurdodau ati i adeiladu cawell a fyddai'n cael ei ollwng i lawr y twll er mwyn dod â'r dynion allan. Roedd yn gawell bach iawn, a byddai'r dynion yn gorfod bod ynddo am tua hanner awr yn cael eu tynnu allan trwy 700 medr o graig. Roedd rhai o'r dynion ychydig yn rhy fawr i'r cawell, ac felly yn ystod eu cyfnod i lawr yn y pwll roedden nhw'n gorfod mynd ar ddeiet arbennig i wneud yn siŵr eu bod yn ddigon bach i ddod i fyny.
Fel y daeth yr amser yn nes, tyfodd sylw'r byd yn fwy ac yn fwy nes cyrraedd uchafbwynt un noson ym mis Hydref. Roedd Arlywydd Chile'i hun wedi dod yno i groesawu'r dynion i ben y pwll, a daeth hi'n amser anfon y gawell i lawr. Anfonwyd meddyg i lawr yn y gawell i wneud yn siŵr fod y mwynwyr mewn cyflwr da i ddod i fyny. Fesul un, galwyd ar deuluoedd y mwynwyr i geg y pwll i weld eu gwŷr, eu meibion a'u cariadon yn dod i fyny.
Y person cyntaf i ddod allan oedd Florencio Avalos ac wedi hynny, bob hanner awr fe ddaeth mwy a mwy allan o'r uffern dan y ddaear.
Mae ymchwiliad eisoes wedi dechrau i ddarganfod beth aeth o'i le, ac i sicrhau y bydd gwersi'n cael eu dysgu o'r camgymeriad. Ond dathlu oedd y peth cyntaf oedd ar feddwl y mwynwyr a'u teuluoedd. A diolch fod popeth wedi gorffen a bod pawb yn dal yn fyw.
A beth mae'r dyfodol yn ei gynnig i'r mwynwyr? Mae yna sôn fod yna lyfrau a ffilmiau yn cael eu paratoi ac mae'n sicr y byddan nhw'n derbyn llawer o arian am eu stori. Ond mae pob un ohonyn nhw wedi cytuno y byddan nhw'n rhannu ymhlith ei gilydd unrhyw arian y byddan nhw'n ei wneud o'r digwyddiad hanesyddol yma dan ddaear. Ac un peth arall y maen nhw i gyd wedi'i gytuno yn ei gylch yw na fydd neb ohonyn nhw'n siarad o gwbl am y pythefnos y buon nhw dan ddaear yn meddwl fod popeth ar ben. Does ond diolch fod yr uffern honno wedi troi'n nefoedd yn y diwedd.
Lluniau Gobierno de Chile
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
mwynwyr | gweithwyr sy’n cloddio am fwynau (copr, aur a.y.b.) | miners |
achub | gwneud rhywun yn ddiogel | save |
caethiwo | colli rhyddid | confine |
dymchwel | tynnu / syrthio i lawr | topple / demolish |
lloches | lle diogel | shelter |
tyllu | gwneud twll | puncture |
gwersylla | aros mewn pabell | camping |
meddyginiaeth | rhywbeth sy'n eich gwella chi, ffisig | medication |
ysbryd | hwyliau | spirit |
cyd-dynnu | dod ymlaen yn dda gyda rhywun | get along |
cawell | math o fasged | cage |
uchafbwynt | y peth pwysicaf, y peth mae pawb wedi edrych ymlaen ato | climax |
uffern | lle ofnadwy | hell |