Roedd Ann Thomas (1704-27) yn byw yn Fferm Cefn Ydfa, fferm ym mhlwyf Llangynwyd Isaf, Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'n debyg iddi gwympo mewn cariad â'r bardd Wil Hopcyn. Ond, roedd ei rhieni'n anfodlon iawn, a bu'n rhaid iddi briodi Anthony Maddocks, gŵr cefnog lleol.
Torrodd Ann ei chalon a bu farw'n ifanc iawn. Mae hi wedi ei chladdu yn Eglwys Sant Cynwyd.
Mae pobl bob amser wedi meddwl bod y gân 'Bugeilio'r Gwenith Gwyn' yn sôn am stori Ann. Efallai bod Wil Hopcyn wedi ysgrifennu un neu ragor o'r penillion. Ond erbyn hyn, does neb yn meddwl bod cysylltiad.
Roedd Rhys a Meinir yn Nant Gwrtheyrn. Roedden nhw'n ffrindiau pan oedden nhw'n blant, ac yna dechreuon nhw ganlyn. Bydden nhw'n treulio llawer o amser yn sgwrsio o dan hen dderwen. Cyn hir, penderfynon nhw briodi.
Y diwrnod cyn y briodas yn Eglwys Clynnog Fawr, daeth llawer o gymdogion i roi anrhegion i'r pâr ifanc. Roedd pawb yn edrych ymlaen at ddathliad hapus.
Roedd hen draddodiad yn Nant Gwrtheyrn - y Chwilfa Briodas. Byddai'r briodferch yn mynd i guddio ar fore'r briodas a'r priodfab a'i ffrindiau'n chwilio amdani cyn mynd â hi i'r eglwys.
Aeth Meinir i guddio, ac ar ôl tipyn, aeth Rhys a'i ffrindiau i chwilio amdani. Ond yn ofer. Doedd dim sôn amdani yn unrhyw le. Ddim y diwrnod hwnnw, a ddim am ddiwrnodau wedyn.
O dipyn i beth, anghofiodd pawb am Meinir, heblaw am Rhys. Aeth allan bob dydd am fisoedd. Yna, un noson stormus, pan oedd allan yn chwilio, aeth Rhys i gysgodi o dan y dderwen lle byddai'r ddau gariad yn arfer sgwrsio. Yn ystod y storm, daeth mellten i daro'r goeden a hollti'r boncyff yn ei hanner.
Wrth i ddau hanner y boncyff agor, gwelodd Rhys ysgerbwd mewn ffrog briodas! Cafodd Rhys drawiad ar ei galon a bu farw yn y fan a'r lle, wrth ochr ei gariad.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
plwyf | ardal lle mae eglwys | parish |
cefnog | cyfoethog | wealthy |
yn ofer | heb lwyddiant | in vain |
o dipyn i beth | gydag amser, yn raddol | gradually |
ysgerbwd | esgyrn y corff | skeleton |
trawiad ar y galon | poen mawr yn y galon | heart attack |