Dwynwen yw nawddsant cariadon Cymru, a byddwn yn dathlu ei gŵyl ar 25 Ionawr. Roedd hi'n un o ferched y brenin Brychan yn y bumed neu'r chweched ganrif.
Mae un stori'n sôn ei bod hi wedi cerdded ar draws Môr Iwerddon am fod arni ofn Maelgwn Gwynedd.
Y stori enwocaf amdani yw ei bod wedi cwympo mewn cariad â Maelon Dafodrill. Dyweddïon nhw, ond torrodd Maelon y dyweddïad a thorri calon Dwynwen ar yr un pryd. Cosbodd Duw Maelon drwy ei rewi.
Wedyn, rhoddodd Duw dri dymuniad i Dwynwen, a dymunodd hi:
1) fod Maelon yn cael ei ddadrewi;
2) ei bod hi'n cael gwrando ar weddïau unrhyw un oedd yn glaf o gariad; ac
3) ei bod hi'n cael byw fel lleian ar ei phen ei hun ar Ynys Llanddwyn.
Mae ffynnon Santes Dwynwen ar Ynys Llanddwyn ac roedd pobl yn credu eu bod nhw'n cael eu hiacháu yno.
Ym myd yr adar, y gwryw sy'n gwneud yr ymdrech i gyd!
Mae sawl enghraifft ym myd yr adar lle:
Bydd yr iâr yn dewis y ceiliog sydd:
Glas y Dorlan
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
esgyrn | mwy nag un asgwrn | bones |
nawddsant | sant arbennig i rywbeth | patron saint |
dyweddïo | addo priodi | to become engaged |
dyweddïad | addewid priodi | engagement |
dadrewi | troi’n ôl o fod wedi rhewi | defrost |
gweddïau | mwy nag un weddi | prayers |
yn glaf o gariad | mewn poen achos cariad | lovesick |
lleian | un o grŵp o ferched sy’n byw bywyd yn addoli Duw yng nghwmni ei gilydd | nun |
iacháu | gwneud yn iach | to cure |
gwryw | y dyn | male |
benyw | y ferch | female |
creu argraff | gwneud i rywun arall feddwl eich bod yn dda | to create an impression |