Cadw'n heini am ddim
Oes rhaid gwario llawer o arian i gadw'n ffit? Nac oes!
Dyma ddeg awgrym i chi:
Yr hen Gymry'n cadw'n heini!
Cyn i bobl ddechrau chwarae rygbi a phêl-droed, roedd dwy gêm boblogaidd yng Nghymru:
Gêm: |
Bando |
Cnapan |
Faint oedd yn chwarae? |
Dau dîm, hyd at 30 o bobl.
|
Dau dîm o ddynion o ddau blwyf, dim ots faint! |
Ble roedden nhw'n chwarae? |
Rhywle gwastad, weithiau ar y traeth.
|
Ar y tir rhwng y ddau blwyf. Roedd y gêm yn dechrau yn y canol rhwng y ddau blwyf.
|
Offer: |
Bando, sef pren tebyg i ffon hoci, gan bob chwaraewr. Hefyd, pêl.
|
Cnapan, sef pêl bren fechan.
|
Nod y gêm: |
Curo'r bêl rhwng dau farc (fel gôl) oedd bob pen i'r maes.
|
Cael y bêl yn ôl i'ch plwyf chi - i rywle fel cyntedd yr eglwys.
|
Pryd roedd hyn? |
Hyd at tua diwedd y 19eg ganrif.
|
Hyd at y 19eg ganrif. |
Ble yng Nghymru? |
Ledled Cymru, yn enwedig yn Sir Forgannwg.
|
Ledled Cymru, yn enwedig yn Sir Benfro a de Ceredigion. |
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
ffôn clyfar | ffôn sydd fel cyfrifiadur bach | smartphone |
gorsafoedd ffitrwydd | mannau lle mae offer i gadw’n ffit | fitness stations |
mainc | sedd hir (e.e. yn y parc) | bench |
hysbysebion | pethau sy’n perswadio rhywun i brynu rhywbeth | adverts |
caniatâd | gadael i rywbeth ddigwydd | permission |
plwyf | ardal sydd ag eglwys | parish |
gwastad | llyfn a fflat | level |