Swnllyd. Anghyffyrddus. Creu Stŵr. Diflas. Hir.

Sut mae'r daith adref ar y bws ysgol i ti?

Dychmyga hyn. Wedi gorffen diwrnod hir yn yr ysgol, mynd ar y bws, eistedd i lawr, ymlacio, gwylio DVD ac yna cyrraedd adref wedi adfywio yn barod i wneud dy waith cartref!

Wel dyma sut mae pethau i fyfyrwyr yng Ngogledd Cymru (efallai ddim y darn am fod yn barod i wneud eu gwaith cartref!)

Ychydig flynyddoedd yn ôl fe wnaeth prosiect bws ysgol ZOom daclo ymddygiad gwrthgymdeithasol a bwlio drwy osod systemau adloniant ar rai bysys ysgol i ddifyrru disgyblion a'u cadw nhw yn eu seddi.

Bwriad yr arbrawf oedd gweld a allai hyn helpu i ostwng bwlio a thynnu ychydig o'r pwysau oddi ar y gyrwyr bysys druan sydd yn gorfod cadw golwg ar y ffofdd ac ymddygiad y teithwyr.

Ysgol Bryn Celyn oedd un o'r ysgolion oedd yn cynnal peilot y cynllun. Roedd adloniant fel cyngherddau, ffilmiau a rhaglenni dogfen natur yn cael eu dangos ar y bysys GHA oedd yn cario'r disgyblion.

"Mae'n gweithio!" meddai Berwyn, Rheolwr Gweithrediadau Bysus GHA. "Mae gyrrwr yn troi ei gefn ar 70 o blant ac yn gyrru. Trwy gadw eu sylw a rhoi adloniant iddynt ar y trip adref maent yn fwy tebygol o fihafio ac yn llai tebygol o achosi fandaliaeth neu dynnu sylw'r gyrrwr."

Cafodd yr arbrawf ei gefnogi gan y Cynulliad ac wedi blwyddyn roeddent am weld a oedd yn llwyddiannus.

"Ar ddiwedd pob diwrnod ysgol mae disgyblion yn mynd ar y bws am adref yn llawn cynnwrf ac egni, ac mae lefelau sŵn yn gallu tynnu sylw gyrwyr bws," meddai Stuart Davies, Cyd Bennaeth Priffyrdd a Seilwaith Conwy a Sir Ddinbych.

"Efallai fod hyn i weld yn ffordd radical iawn ond os yw'n lleihau ymddygiad gwael ac yn stopio bwlio yna mae werth o. Yn America mae systemau adloniant yn cael eu defnyddio yn barod i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac mae'r canlyniadau yn bositif."

Rhai o'r DVD's addas at yr oedran oedd yn cael eu dangos oedd A Bug's Life, Planet Earth, Pixar Short Stories, Earth Power of the Planet, Amazon with Bruce Parry, Coldplay, Wall E, Take That Beautiful World Live, Harry Hills TV Burp a Marley and Me.

bodyimage.jpg

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
Adfywio rhoi bywyd yn ôl Revive
Difyrru cadw’n hapus Amuse
Adloniant rhywbeth i’ch cadw’n hapus Entertainment
Eithafol newid mawr Radical