Pethau'n gwella!

Rhifyn 26 - Fandaliaeth
Pethau'n gwella!

Mae ffigyrau fandaliaeth ym Mhrydain yn gostwng yn gynt nac unrhyw drosedd arall yn ôl ffigyrau swyddogol.

TUEDDIADAU MEWN FANDALIAETH YN LLOEGR A CHYMRU, 1981-Mehefin 2012.

graph123.png

Pam?

bus.jpg

atm.jpg

Pobl wedi rhoi'r gorau i ddweud wrth yr heddlu

Yr eglurhad mwyaf syml ydy bod yr ystadegau yn anghywir! Dydy pobl ddim yn trafferthu i adael i'r awdurdodau wybod am achosion o fandaliaeth! Ond dydy'r ddadl honno ddim yn dal dŵr oherwydd mae'r ymchwil wedi ei seilio ar gyfweliadau gydag aelodau o'r cyhoedd.

Mae pethau'n fwy anodd i'w fandaleiddio

Mae pethau oedd yn arfer bod yn dargedau i fandaliaeth yn anoddach i'w difetha yn ôl  ClearChannelsy'n cyflenwi 350 o awdurdodau lleol gyda chysgodfeydd bysiau.

"Mae byrddau hysbysebu ar ein cysgodfeydd ac mae hynny yn cadw fandaliaid draw,' meddai'r cyfarwyddwr Mark Webb.

"Rydym hefyd yn creu effaith 'ffenest wedi torri'. Bydd ein timau cynnal a chadw yn ymateb ar unwaith pan glywir am fandaliaeth ac mae hynny yn help i barchu'r cysgodfeydd'.

Cosbau am ymddygiad gwrth-gymdeithasol

Mae rhai awdurdodau lleol wedi  llwyddo i wella ansawdd bywyd ar rai stadau anodd trwy ddefnyddio Asbos.

Yr anfantais, ar y llaw arall,ydy bod y drwg weithredwyr yn symud o un ardal i un arall.

Dulliau mwy soffistigedig o rwystro fandaliaeth

window.jpg

Mae'r awdurdodau lleol a'r heddlu yn delio'n well gyda fandaliaeth.  Mae mwy o ymwybyddiaeth o CCTV a'r syniad y gallai aelod o'r heddlu guro ar y drws mewn wythnosau.

Balchder lleol

Mewn ardaloedd sydd â phroblemau cymdeithasol mae'r  ieuenctid yn  hongian o gwmpas mewn grwpiau, yn ymddwyn yn lloerig, yn cymryd mwy o gyffuriau ac yn fwy treisgar ond dydyn nhw ddim yn fandfaleiddio. Mae ganddyn nhw barch at eu hardal. "Weithiau dydy graffiti ddim yn gwneud i'ch stâd edrych yn dda,' meddai un bachgen ifanc.

Bu gostyngiad o 48% mewn fandaliaeth yn Cotgrave, yn Swydd Nottingham, wedi i'r cyngor, yr heddlu, y gwasanaeth tân a'r Clwb Criced gydweithio i greu gweithgareddau hamdden i'r ieuenctid. Fe wnaethon nhw geisio helpu teuluoedd oedd yn achosi trafferth ac fe wnaethon nhw gosbi unrhyw un oedd yn gwerthu alcohol i bobl ifanc dan oed.

Y ffôn a'r cyfrifiadur

Roedd llai o achosion o fandaliaeth yn 2006/07 -tua'r un pryd ag yr ymddangosodd smartffonau ym Mhrydain. Mae pobl ifanc yn anfon oddeutu 200 tecst neu neges sydyn yr wythnos a bydd yr amser oedd yn caelei dreulio yn cicio sodlau ar gornel stryd yn cael ei dreulio ar y ffôn neu ar y ŵe.

Mae ymchwil gan Ofcom wedi darganfod bod 7% o bobl ifanc yn treulio llai o amser yn cymdeithasu gyda ffrindiau ers iddynt gael smartphone ac mae ffigyrau GameTrak yn dangos bod pobl ifanc 11-14 oed yn treulio 13awr yr wythnos yn chwarae gemau cyfrifiadurol - a hynny fwyfwy ar smartphone.

GWERTHIANT SMARTPHONES 2005 - 2011

graph.png

Y cyfrwng cymdeithasol yw'r graffiti modern

Yn draddodiadol dim ond trwy graffiti y gallai pobl ifanc adael i'r byd wybod am eu cariad neu eu casineb. Ond oherwydd Twitter a Facebook, maen nhw'n gallu ei gyhoeddi i'r byd a does neb yn gallu ei ddileu

Pobl ifanc yn yfed llai

Pam mae pobl ifanc yn yfed llai? Efallai bod y negeseuon iechyd yn cael effaith neu bod yr ieuenctid wedi gweld eu brodyr a'u chwiorydd hŷn yn dioddef.

petrol_622x163.jpg

Dim plwm mewn petrol

Mae hyn yn swnio'n ddwl bost  ond awgryma ymchwil y gallai'r gostyngiad mewn trais fod oherwydd y gostyngiad mewn plwm yn yr atmosffer ers iddo gael ei wahardd o baent a phetrol.