Linda waz ere

Rhifyn 26 - Fandaliaeth
Linda waz ere

Linda

rwyn dy gyfarch rwan

er nad ydw i yn dy nabod di.

 

Yma ar wal y Prom

yn y Rhyl

y syllaf ar d'ymgais

at anfarwoldeb graffiti.

 

Rhyw ddydd pan oedd y sment yn feddal

a thithau awydd gadael d'ôl

ar yr hen fyd'ma,

rhoist dy fys

i fandaleiddio'r sment cynnes

'Lina waz ere,'

a dyna sut yr ydw i'n dy nabod di

i'th gyfarch.

 

Roeddwn am i ti wybod

ein bod ni gyd y run fath

yn yr hen fyd'ma

- eisiau gadael rhyw argraff

ar ein marwoldeb.

Aled Lewis Evans (Sbectol Inc, gol. Eleri Ellis Jones. Tud.9)

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
Anfarwoldeb peidio â marw, peidio â chael ei anghofio Immortality
Marwoldeb bod yn farw, gallu marw Mortality