Sawl tro ydych chi wedi clywed am bobl ifanc yn cam-ymddwyn neu yn fandaleiddio? Sawl tro ydych chi wedi darllen adroddiadau fel hyn yn y wasg? Efallai nad ydynt yn dweud mai'r bobl ifanc sy'n gyfrifol ond dyna'r awgrym.
Fandaliaeth yn rhwystro'r frwydr yn erbyn clefyd coed angheuol
Mae fandaliaid wedi achosi difrod i beiriannau sy'n cael eu defnyddio gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru a'i gontractwyr i gwympo coed sydd wedi eu heintio â chlefyd ramorum yng Nghoedwig Afan ger Port Talbot. Prawf nad mewn trefi yn unig mae fandaliaid yn difrodi.
Difrodwyd dau beiriant cynaeafu mewn dau ymosodiad ar wahân, ac o ganlyniad i'r fandaliaeth, mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru wedi gorfod rhoi mwy o swyddogion diogelwch yn y safleoedd cynaeafu yn yr ardal.
Fandaliaeth ym Mharc Padarn, Llanberis
Bin sbwriel ym Mharc Padarn a ddinistrwyd gan dân
Targedwyd biniau sbwriel mewn llecyn poblogaidd yng Ngwynedd gan fandaliaid dros y misoedd diwethaf.
Cyngor Gwynedd sy'n gyfrifol am Barc Padarn yn Llanberis, lle mae staff y Cyngor wedi eu galw i sawl digwyddiad am fod rhywun wedi rhoi biniau sbwriel y parc ar dân.
Dinistriwyd o leiaf 20 bin ym maes parcio'r Lanfa yn y parc. Hysbyswyd yr heddlu o'r achosion.
Meddai Barry Davies, Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig Cyngor Gwynedd, "Mae'r tannau hyn yn golygu fod y gwasanaeth o ddarparu biniau sbwriel ar gyfer y cyhoedd yn y parc dan fygythiad.
"Mae fandaliaeth ddi-hid o'r math yma yn gostus i drethdalwyr Gwynedd gan fod angen clirio'r safle a chael biniau newydd bob tro mae'n digwydd, ac mae hefyd yn golygu fod amser staff yn cael ei ddefnyddio i ymgymryd â'r gwaith."
"Dyw hyn ddim yn adlewyrchu'n dda ar ardal sydd wedi ennill gwobr Baner Werdd am y tro cyntaf yn 2008, sy'n cydnabod parciau gwledig a mannau gwyrdd o safon uchel."
"Mae'r mwyafrif llethol o ymwelwyr i'r parc yno i fwynhau'r amgylchedd naturiol arbennig ac rydym yn diolch iddynt am eu cefnogaeth, ond mae ymddygiad lleiafrif bychan yn achosi trafferthion. Mae colli biniau yn rheolaidd fel yma yn creu trafferth a llanastr, sydd yn bechod pan mae cymaint o deuluoedd yn ymweld â'r parc."
"Rydym yn erfyn ar y rhai sy'n gyfrifol i barchu eiddo ac i feddwl am ddiogelwch pobl eraill."
Ond oni ddylem ni dalu mwy o sylw i hanesion fel hyn?
GWEITHREDU GAN IEUENCTID YN ERBYN FANDALIAETH
Mae pobl ifanc yn Llanelli wedi dangos beth yw gwir ystyr 'Gweithredu gan Ieuenctid' drwy lanhau Parc Penymorfa.
Cafodd y parc graffiti ym Mhenymorfa, a gwblhawyd dan fenter Splash and Play, ei fandaleiddio â phaent gwyn. Mae Cymunedau yn Gyntaf wedi gweithio ochr yn ochr â phrosiect SMART. Trefnwyd ymgyrch lanhau gan bobl ifanc. Cawsant gyfle i baentio eu graffiti eu hunain ar un ochr wal graffiti'r parc.
Dywedodd Kelly Wood, Gweithiwr Datblygu Cymunedau yn Gyntaf: "Mae hyn yn ymwneud ag annog pobl ifanc i leisio'u barn am y problemau y maen nhw'n eu hwynebu a chymryd camau i fynd i'r afael â'r problemau hynny. Mae'n ymwneud â pherchenogi hefyd. Bydd gwaith y bobl ifanc hyn yno i'r holl gymuned ei werthfawrogi."
"Y gobaith yw y bydd yr ymwybyddiaeth o effeithiau fandaliaeth yn cynyddu yn sgil y prosiect."
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
Difrod | malu, malurio, gwneud niwed | Damage |
Heintio | cael haint neu salwch | Infect |
Cynaeafu | casglu rhywbeth | Harvest |
Perchenogi | teimlo mai chi sydd biau rhywbeth | To own |