Os ydych chi eisiau llwyddo mewn unrhyw beth, rhaid dal ati - rhaid dyfalbarhau. Mewn geiriau eraill, "Dyfal donc a dyrr y garreg." Dyna pam mae gŵr a gwraig o Ogledd Cymru wedi dewis yr enw Dyfal Donc ar gyfer eu cwmni.
"Roedd y dywediad yn addas i beth roedden ni'n trio'i wneud ar y pryd," dywedodd Morgan Griffith, sy'n un o berchnogion y cwmni. "Os ydych chi eisiau cael llwyddiant mewn unrhyw faes, rhaid i chi weithio'n galed - rhaid dal ati."

Eco-gyfeillgar
Mae'r cwmni'n un eco-gyfeillgar iawn gan fod Morgan a Rebecca'n defnyddio hen betheuach papur, hen luniau, paent ac unrhyw beth arall y mae modd eu hail-ddefnyddio neu eu hailgylchu. Wrth ddylunio, maent yn defnyddio hen wyddoniaduron, llyfrau gwyddoniaeth, llyfrau bywydeg a llyfrau natur o'r 50au, 60au, 70au a'r 80au.
Yn ogystal, maent yn ceisio creu cynnyrch eco-GYFEILLGAR fel amlenni mae modd eu hailgylchu 100% a bagiau arddangos o ddeunydd sy'n pydru.
Beth am y dyfodol?
"Byddwn ni'n datblygu'r cynlluniau a'n nwyddau a byddwn ni'n creu printiau celf A5, A4 ac A3. Rydym yn gobeithio creu papur lapio, cardiau rhoddion, cardiau post, setiau ysgrifennu a mwy."
Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth, neu weld mwy o'r cynnyrch, ewch i:
http://www.dyfaldonc.com/cy/about/.
| Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
|---|---|---|
| dyfalbarhau | dal ati | to persevere |
| dylunydd | person sy’n dylunio | designer |
| gweinyddwr | person sy’n rhedeg busnes, gwneud y gwaith papur ac ati | administrator |
| cyfarch | rhoi neges | to greet, greeting |
| nwyddau | pethau | goods |
| ar hyd a lled | ar draws | all over |
| eco-gyfeillgar | sy’n dda i’r amgylchedd | eco-friendly |
| petheuach | pethau | things |
| mae modd | mae’n bosib | it’s possible to |
| gwyddoniaduron | lluosog gwyddoniadur, llyfrau gwybodaeth | encyclopaedias |