Dyma bos i chi.
Dychmygwch mai chi yw'r frân sy'n sefyll ar y garreg yn y llun yma.
Mae syched ofnadwy arnoch chi ac mae dŵr yn y jwg. Ond mae'r dŵr ar waelod y jwg ac nid yw'ch pig yn ddigon hir i'w gyrraedd.
Beth rydych chi'n mynd i'w wneud? Sut rydych chi'n mynd i gyrraedd y dŵr?Trafodwch syniadau mewn grŵp.
Ar ôl trafod, dewiswch yr opsiwn gorau.
Yna, ewch i Dasg 1.
***
Y tsimpansî a'r gneuen
Mae anifeiliaid eraill wedi dangos eu gallu i ddal ati hefyd ...
Mae gwyddonwyr yn Athrofa Max Planck yn yr Almaen wedi cynnal cyfres o arbrofion sy'n dangos bod tsimpansïaid nid yn unig yn ddyfeisgar ac yn ddeallus ond eu bod hefyd yn barod i ddyfalbarhau.
Gosododd y gwyddonwyr diwb fertigol 26 centimetr ar wal. Llenwon nhw waelod y tiwb â dŵr a rhoddon nhw gneuen i arnofio ar wyneb y dŵr. Yna, gadawyd i'r tsimpansïaid geisio cael gafael ar y gneuen.
Y ffordd hawsaf o wneud hyn, wrth gwrs, fyddai tynnu'r tiwb i lawr o'r wal, tywallt y dŵr a chymryd y gneuen, ond nid oedd hyn yn bosib, gan fod y tiwb yn sownd wrth y wal.
Roedd rhaid dod o hyd i ffordd arall o gael y gneuen, felly. Ar ôl ychydig, sylwodd y tsimpansïaid fod mwy o ddŵr ar gael tua metr i ffwrdd o'r tiwb - a dyma'r ateb i'w problem.
Dechreuon nhw gario'r dŵr yn eu cegau a'i ollwng yn y tiwb, er mwyn codi lefel y dŵr, a dod â'r gneuen i'r wyneb. Dro ar ôl tro, aethon nhw at y dŵr, ei godi ac yna'i ollwng yn y tiwb.
Aeth un o'r tsimpansïaid mor bell â gwneud pi-pi yn y tiwb er mwyn codi lefel y dŵr.
Dywedodd y prif wyddonydd, Daniel Hanus, ei bod hi'n amlwg bod y tsimpansïaid yn gwybod yn union beth roedden nhw'n ei wneud a'u bod yn dal ati hyd nes iddyn nhw lwyddo.
Mae'n amlwg bod yr un wnaeth bi-pi yn y tiwb wedi deall sut i ddatrys y broblem! Roedd angen codi lefel y dŵr er mwyn codi'r gneuen i'r wyneb - dim ots o ble roedd hwnnw'n dod!
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
dyfalbarhad | y gallu i ddal ati | perseverance |
dyfeisgar | yn gallu datrys problemau | resourceful |