Mae'n cerdded y catwalk yn dawel fel cath,
Mae'n brydferth, does neb sydd yn harddach;
Mae'r dillad yn ddrudfawr a'r gemau yn drwm
A gwylio a gwenu mae'r crachach.
O Baris i'r Eidal, mae'n teithio o hyd,
I sioeau a photoshoots prysur;
Mae colur a 'sgidiau o'i chwmpas bob dydd,
Mae'n ffodus nad yw hi yn segur.
A draw yn y Dwyrain mae menyw fach dlawd
Mewn ffatri sy'n llawn o beiriannau,
Yn gwnïo a gwnïo am oriau mor hir
I sicrhau dillad i'n siopau.
Ac yno y bydd hi, bob dydd a phob mis,
Bob blwyddyn, tan bydd hi'n ymddeol,
Yn gweithio am friwsion, ond wir, dyna ni,
Dim ots, 'mond ein bod ni'n ffasiynol.
| Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg | 
|---|---|---|
| drudfawr | drud + mawr , drud iawn | expensive | 
| crachach | pobl sy’n meddwl eu bod nhw’n well na phawb arall | snobs | 
| ffodus | lwcus | fortunate | 
| segur | heb ddim i’w wneud | idle, at a loose end | 
| briwsion | darnau bach iawn; ychydig iawn o arian | pitance | 
| ymddeol | gorffen gweithio ar ôl llawer o flynyddoedd | to retire |