Mae cannoedd o bobl yn teithio o Brydain i Ffrainc bob dydd.
Mae rhai pobl yn hedfan, mae pobl eraill yn mynd mewn car, mewn bws neu mewn lori neu mae rhai'n mynd ar gefn beic. Ond rhaid i'r bobl hyn groesi'r Sianel rhwng Prydain a Ffrainc - rhaid croesi'r dŵr. Rhaid mynd dros y dŵr - mewn awyren neu gwch neu ar fferi - neu o dan y dŵr, mewn trên sy'n teithio drwy dwnnel arbennig.
Mae'n gwahanu De Lloegr a Gogledd Ffrainc. Mae hi tua 560 km o hyd. Mae hi tua 34 km o led rhwng Dover a Calais - y darn culaf. Mae hi'n llawer mwy llydan mewn rhannau eraill, wrth gwrs.
Mae rhai pobl yn nofio ar draws y Sianel hefyd - er mwyn codi arian at achosion da.
Er bod llawer o bobl yn sôn am 'Y twnnel' o dan y Sianel, mae tri thwnnel:
Mae'r twneli'n hir ac yn ddwfn:
Cafodd y twneli yma eu hagor yn 1994, felly maen nhw'n eitha newydd. Ond roedd pobl wedi bod yn cynllunio twneli o dan y Sianel am flynyddoedd cyn hyn - ac roedd un ohonyn nhw'n dod o Wrecsam.
Pwy: William Low
Geni: 1814, Yr Alban
Marw: 1886
Yr hanes:
Daeth William Low i weithio yn ardal Wrecsam yn yr 1840au ac erbyn 1847 roedd e'n byw yn yr ardal. Daeth e'n gydberchennog ar bwll glo'r Fron, yn ardal Wrecsam, yn 1850. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd y trên yn dod yn boblogaidd ac roedd Low yn gweithio fel peiriannydd rheilffyrdd.
Oherwydd ei ddiddordeb mewn trenau - a'i wybodaeth am dwneli yn y pwll glo - dechreuodd Low gynllunio twnnel i fynd o dan y Sianel. Yn yr 1860au, dechreuodd e'r cwmni The Channel Tunnel Company. Er bod pobl wedi bod yn meddwl am y syniad o dwnnel am flynyddoedd, William Low oedd y person cyntaf i wneud cynlluniau realistig.
Low oedd y dyn cyntaf i geisio gwneud y twnnel hefyd. Prynodd e dir ger Dover a Calais a dechreuodd y gwaith o wneud y twnnel ger Dover yn 1870. Erbyn 1881, roedd tua 1,000 o droedfeddi o'r twnnel wedi eu gorffen ger Dover ond roedd rhaid dod â'r gwaith i ben oherwydd roedd rhai pobl yn poeni y byddai'r Ffrancod yn defnyddio'r twnnel i ymosod ar Brydain.
Mae cysylltiad arall rhwng Cymru a'r twneli yma - glowyr o Gymru oedd yn gwneud y twnnel yma.
Llun: Cofeb i William Low, yn Wrecsam
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
y Sianel | y môr rhwng Prydain a Ffrainc | the (English) Channel |
argyfwng | digwyddiad peryglus | emergency |
cydberchennog | = cyd + perchennog - un o’r perchnogion | co-owner |
peiriannydd | rhywun sy’n gweithio ym myd peiriannau | engineer |