Trôns coch a ches bach du

Rhifyn 31 - Ar ddechrau blwyddyn ...
Trôns coch a ches bach du
Ifan:

Beth ar y ddaear wyt ti’n wneud yn cerdded o gwmpas mewn trôns coch … a beth sy gen ti yn dy law?

Eilir:

Pam? Beth ydy’r broblem?

Ifan:

A beth ydy’r trôns aur yna ar y gwely?

Eilir:

Dw i’n methu penderfynu.

Ifan:

Methu penderfynu?

Eilir:

Methu penderfynu pa un i’w wisgo –  y trôns coch neu’r un aur.

Ifan:

O? Pa mor aml wyt ti’n gwisgo trôns coch neu drôns aur?

Eilir:

Dim ond ar ddechrau’r Flwyddyn Newydd.

Ifan:

Dim ond ar ddechrau’r Flwyddyn Newydd?

Eilir:

Ie – ar ddechrau’r Flwyddyn Newydd.

Ifan:

Ond pam?

Eilir:

Wel, mae gwisgo dillad isaf coch neu aur ar ddechrau’r flwyddyn yn bwysig iawn achos os byddi di’n gwisgo trôns coch, byddi di’n dod o hyd i gariad … ac os byddi di’n gwisgo trôns aur, byddi di’n cael llawer o arian yn ystod y flwyddyn.

Ifan:

Meddai pwy?

Eilir:

Meddai pobl De America. Pa liw wyt ti’n gwisgo?

Ifan:

Trôns gwyn.

Eilir:

Dim problem! Mae gwisgo trôns gwyn dros y Flwyddyn Newydd yn dda hefyd achos mae trôns gwyn yn golygu heddwch. Byddi di’n cael blwyddyn llawn heddwch – yn ôl pobl De America.

Ifan:

Dwyt ti ddim hanner call! A pham mae gen ti ges yn dy law?

Eilir:

Wel, mewn rhai gwledydd yn Ne America, mae cario ces dros y Flwyddyn Newydd yn golygu y byddi di’n teithio llawer yn ystod y flwyddyn sydd i ddod a dw i wir eisiau teithio eleni.

(Mae Eilir yn cymryd crys smotiog o’i gwpwrdd dillad ac yn ei wisgo.)

Ifan:

Beth ar y ddaear wyt ti’n wneud rŵan? O ble gest ti’r crys smotiog yna?

Eilir:

Mi wnes i ei brynu fo efo’r arian roddodd Nain i mi yn anrheg Nadolig.

Ifan:

Ond mae’r smotiau gwyrdd a glas ac oren ar y defnydd pinc yn ofnadwy.

Eilir:

Ofnadwy? Hy! Cei di weld.

Ifan:

Gweld? Gweld beth? A beth wyt ti’n wneud rŵan – rhoi fferins yn dy boced ... rhoi cadwen o gwmpas dy wddw ... gwisgo watsh newydd ... Beth sy’n bod arnat ti?

Eilir:

Edrycha ar siâp y smotiau a’r botymau ar y crys. Pa siâp ydyn nhw?

Ifan:

Crwn.

Eilir:

Y fferins – pa fath ydyn nhw?

Ifan:

Smarties.

Eilir:

Smarties – cywir. Pa siâp ydyn nhw?

Ifan:

Crwn.

Eilir:

Y tlws ar y gadwen. Pa siâp?

Ifan:

Crwn.

Eilir:

Y watsh. Pa siâp?

Ifan:

Crwn.

Eilir:

A beth am y darnau arian yma bydda i’n eu rhoi ym mhoced fy nhrowsus?

Ifan:

Crwn.

Eilir:

Dyna ni – maen nhw i gyd yn grwn. Achos mae pethau crwn yn bwysig dros y Flwyddyn Newydd.

Ifan:

Yn ôl pobl De America?

Eilir:

Nage – yn ôl pobl Ynysoedd y Pilipinas. Mae pethau crwn yn golygu byddi di’n cael digon o arian yn ystod y flwyddyn.

(Mae Ifan yn mynd allan o’r ystafell. Yna, mae’n dod yn ôl, yn cario pecyn o bowdwr talc ei fam tu ôl i’w gefn.) 

Eilir:

Pam wyt ti’n gwenu o glust i glust?

(Mae Ifan yn dechrau taflu’r powdwr talc dros Eilir.)

Eilir:

Hei! Beth wyt ti’n meddwl wyt ti’n wneud?

Ifan:

Dw i’n taflu powdwr talc drosot ti.

Eilir:

Stopia! Paid â bod mor wirion! Stopia!

Ifan:

Na – yn ôl rhai pobl yn Asia, mae taflu powdwr dros rywun adeg y Flwyddyn Newydd yn lwcus iawn. Felly, dyma ti – Blwyddyn Newydd Dda i ti.

Eilir:

Stopiaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaa!

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
trôns pants underpants
Dwyt ti ddim hanner call. Rwyt ti’n wirion / ddwl. You’re mad.
fferins losin, melysion sweets
cadwen cadwyn i’w gwisgo o gwmpas y gwddw – fel mwclis chain
Ynysoedd y Pilipinas ynysoedd yn ne-ddwyrain Asia the Philippines