Sgôr - Bethan Gwanas.jpg

Yn y nofel ‘Sgôr’ mae Siôn ap Gwynfor wedi gorfod symud i fyw o Fangor yng Ngogledd Cymru i ardal wledig yn Ne Cymru. Nid yw yn hapus yno.

15 Ionawr, 2016

Dwi’n casáu’r dymp’ma. Mae pawb yn gneud hwyl ar ben fy enw ‘Weshie’ i (be sy o’i le efo Sion ap Gwynfor?) a mwy o hwyl fyth ar ben fy acen ‘gog’ i, ond dwi’m yn eu deall nhw chwaith. Wel, mi rydw i go iawn, fedrwch chi’m cael eich magu ar Pobol y Cwm heb ddod i ddeall rhywfaint o iaith y de – ond dwi’n esgus mod i ddim. Jest i’w gwylltio nhw.

17 Ionawr, 2016

Dau ddiwrnod o ysgol sydd ar ôl, diolch byth. Mae’na griw o blwyddyn 10 ac 11 yn cael parti Dolig yn rwla nos fory, ond dwim wedi cael gwahoddiad.A finna wedi bod yn gneud’y ngora i drio bod yn gyfeillgar a ffitio mewn – ers deuddydd. Ro’n i’n pendronni dros hyn amser egwyl bore’ma, wrth esgus sbio ar bosteri yn y cyntedd.

‘Meddwl mynd?’ holodd rhywun o’r tu ôl i mi. Teleri.

‘Mynd i lle?’ medda fi’n ddryslyd.

‘Ar y trip sgїo. Ti’n edrych ar y poster yna ers deg munud o leia.’

‘Ydw i?’

Do’n i ddim hyd yn oed wedi sylwi. A dyna fo, reit o flaen fy nhrwyn i, poster mawr glas yn dweud: ‘Wythnos yn Val d’Isère fis Chwefror. £500. Holwch Mr John am fanylion pellach.

‘Wyt...’ Edrychodd hi arna i am amser hir. Mor hir, ro’n i’n teimlo fy hun yn cochi. ‘Wyt ti’n oreit, Siôn?’ gofynnodd hi wedyn.

‘Fi? Ydw siŵr. Champion.’

Chwarddodd. ‘Chi gogs mor ffyni. Champion....?’

Gwingais. Dw i byth yn dweud ‘champion’. Pam oedd raid i mi ddweud champion? Weithia, mi fydda i’n teimlo fel waldio fy hun ar fy mhen efo gordd.

‘Ym ... wyt ti’n meddwl mynd?’

‘I lle nawr?’

‘Y peth sgio’ma.’

‘Nagw. Sai’n gweld y pwynt o fynd lan mynydd er mwyn dod nôl lawr eto. Na, moyn rhoi’r poster’ma lan o’n i, ond ‘sda fi ddim pinne bawd.’

Pinne bawd? Be’ uffar? O ... drawing pins oedd hi’n feddwl. Roedd’na bedwar ohonyn nhw’n dal y poster sgїo i fyny. Mi fyddai dau yn ddigon. Felly mi dynais ddau allan a’u rhoi iddi.

‘Hwda.’

Edrychodd yn hurt arna i.

‘Beth? Ydw i’n edrych yn dost?’

‘Y?’

‘Sori, beth wedest ti?’

‘Fi? Pryd?’

‘Jest nawr. Rhywbeth am hwdu?’

‘Chwdu?’

‘Ie.’

‘Ddeudis i’m byd am chwdu.’

‘Beth wedest ti’te?’

‘Hwda!’

‘Wel’na fe, wedes i on’do fe!’

Asu, mae isio gras weithia. Ond roedd hi’n gwenu’n ddireidus arna i a dw i bron yn siŵr mai jyst tynnu arna i roedd hi o’r cychwyn.

‘Iawn, mewn Cymraeg rhyngwladol, dyma i ti ddau bin bawd ...’

‘Diolch, Siôn.’Cymerodd y ddau allan o fy llaw, a gwenu’n ddel arna i. Asu, mae ganddi hi ddannadd neis. ‘Mae gen ti ddannadd neis.’ Damia, do’n i ddim wedi meddwl ei ddweud o fel’na chwaith. Edrychodd hi hyd yn oed yn fwy hurt arna i.

‘ Beth wyt ti – ffarmwr neu rywbeth? Yn edrych arna i fel dafad?’

‘Ym, naci, ddim o gwbl siŵr. Jest deud, dyna i gyd.’

‘Wel .... ma fe’n gompliment, on’dyw e?’

‘O, yndi.’

‘Diolch. Ma’da tithe ddannedd eitha neis hefyd ...’

‘O. Diolch. Fydda i’n trio edrych ar eu hola nhw. Glanhau nhw cyn cysgu ac ar ôl brecwast a ballu.’ O, cau dy geg, Siôn. Ti’n rwdlan.

‘Diddorol iawn ...’ Roedd hi’n chwerthin ar fy mhen i. Yn gwbod yn iawn mod i’n rwdlan oherwydd mod i’n ffansїo hi. Mi benderfynais gau ngheg, ac aeth hi ati i osod y poster.