Mae’r Navaho yn byw yng Ngogledd America.
Llwyth o frodorion Gogledd America ydyn nhw. Mae tua 300 000 ohonyn nhw ac mae’r rhan fwyaf yn byw ar randir yn ne-orllewin Gogledd America.
Cartref y Navaho heddiw
Hanes
Ffermwyr oedd y Navaho yn wreiddiol. Roedden nhw’n byw yn Arizona, Mecsico Newydd, Utah a Colorado. Roedden nhw’n tyfu eu cnydau eu hunain. Roedd y merched yn edrych ar ôl y cartrefi a’r tir ac roedd y dynion yn hela am fwyd ac yn amddiffyn y bobl. Roedden nhw’n byw mewn “hogans” – cartrefi wedi eu gwneud o ffrâm o bren gyda waliau wedi eu gwneud o glai.
Daeth milwyr a llwythau eraill i ymosod ar y Navaho a daeth pobl ddieithr i gymryd eu tir ac i fyw yno.
Yn 1864, ymosododd Cyrnol Kit Carson a’i filwyr yn ffyrnig ar y Navaho, gan ladd llawer ohonyn nhw a dinistrio anifeiliaid, cnydau, offer a chartrefi. Cipiodd lawer ohonyn a’u gorfodi nhw i gerdded 300 milltir i randir Bosque Redondo yn Fort Sumner yn Mecsico Newydd, i fyw fel carcharorion. Roedd y daith yn hir ac yn anodd a bu farw tua 200 o’r Navaho o newyn, salwch a gwendid.
Doedd pennaeth y llwyth, Manuelito, neu Bullet, a’i ddilynwyr ddim yn fodlon mynd i Bosque Redondo ac felly buon nhw’n ymladd yn erbyn y fyddin. Fodd bynnag, yn y diwedd, oherwydd prinder bwyd, roedd rhaid iddyn nhw ildio a mynd i Bosque Redondo hefyd.
Roedd bywyd yn y rhandir yn ofnadwy. Roedd y Navaho wedi gadael tiroedd ffrwythlon, lle roedd digon o borfa dda a dŵr clir ar gyfer magu anifeiliaid, a nawr roedd rhaid iddyn nhw fyw mewn tir sych, anodd ei drin. Roedd bywyd mor anodd fel bod Manuelito a rhai eraill o’r arweinwyr wedi cael caniatâd i fynd i Washington D.C. ym 1868 i ofyn am randir newydd. Yn y diwedd, cawson nhw eu symud yn ôl i randir newydd – ar y tir lle roedden nhw wedi bod yn byw yn y lle cyntaf.
Erbyn heddiw, mae gan y rhandir ei lywodraeth ei hun, ei heddlu a’i wasanaethau – fel unrhyw wlad – ac mae gan y Navaho arlywydd.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
llwyth | grŵp o bobl sy’n rhannu’r un ffordd o fyw | tribe |
brodorion | lluosog brodor; rhywun sy’n dod o wlad benodol | natives |
cnydau | lluosog cnwd: bwyd sy’n tyfu | crops |
amddiffyn | gwarchod, cadw’n ddiogel | to defend |
cipio | cymryd | to take |
newyn | dim bwyd | starvation |
gwendid | y cyflwr o fod yn wan | weakness |
pennaeth | arweinydd | chief |
ildio | rhoi mewn | to yield, give in |
rhandir | Yn hanesyddol, roedd y brodorion yn cael eu symud o’u cartrefi eu hunain ac yn cael eu gorfodi i fyw ar darn o dir. | reservation |
trin | gweithio | to treat |
arlywydd | arweinydd | president |