Eira, eira, hwyr y dydd.
Lloer o'i harffed ddiwedydd
yn hau ceinioge newydd,
Eira, eira hwyr y dydd.
Eira, eira hwyr y dydd
fel cen lond pen y pinwydd.
Trwch fel conffeti ar wydd.
Lleuad wen fel gobennydd,
plu'r cwd yn pylu'r coedydd
Eira, eira hwyr y dydd.
Eira, eira, hwyr y dydd,
Fel gefail y gaeafwydd,
Gwreichion gwyn ar derfyn.
Eira, eira hwyr y dydd
Siampaen, siampaen yw'r pinwydd,
Eira, eira hwyr y dydd.
| Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
|---|---|---|
| arffed | côl, glin | lap |
| cen | darnau bach o groen marw yng ngwallt rhywun | dandruff |
| pinwydd | coed pîn | pine trees |
| gefail | teclyn haearn sy'n gafael yn dynn, gweithdy gof | tongs, forge |
| gwreichion | darnau bach tanllyd sy'n neidio o'r tân | sparks |