Mellt a tharanau

Rhifyn 5 - Y Tywydd
Mellt a tharanau

Beth sy'n achosi mellten?

Gwefr drydanol ydy mellten. Bydd darnau bach o rew yn taro yn erbyn ei gilydd mewn cwmwl ac yn creu gwefr drydanol, a waw! Dyna fellten!

Mae mellt yn chwilboeth - tua 30,000 °C(54,000 °F), sy'n chwe gwaith poethach na'r haul!

Wyddoch chi?

Mae bron i 1800 storm o fellt a tharanau yn digwydd ar unrhyw un adeg ar draws y byd.

Mae mellt yn lladd o leiaf 1000 o bobl y flwyddyn ar draws y byd.

Mae mwy na hynny'n cael eu hanafu.

Mae mwy o bobl yn cael eu lladd gan fellt na chorwyntoedd a thornados.

Mae'r fellten a'r daran yn digwydd yr un pryd.

Beth sy'n achosi taran?

Mae'r tymheredd uchel yn gwneud i'r aer ehangu'n ffyrnig. Yna mae'r aer yn ffrwydro ac yn creu seindonau. Rydyn ni'n clywed y rhain fel taran. Gan fod goleuni'n symud 900,000 gwaith yn gyflymach na sain rydyn ni'n gweld y fellten cyn clywed y daran.

Pa mor bell mae storm?

Gallwch weld mellten tua 100 milltir i ffwrdd. Mae taran i'w chlywed tua 15 milltir i ffwrdd mewn ardal wledig dawel a thua 5 milltir mewn dinas swnllyd.

Gallwch ddweud pa mor bell ydy storm o fellt a tharanau trwy gyfrif yr eiliadau rhwng y fellten a'r daran a rhannu hynny gyda 5. Os ydych yn cyfrif 10 eiliad mae'r storm 2 filltir oddi wrthych.

Beth ydy mellten fforchog?

Llinellau igam ogam o olau sy'n saethu o un cwmwl i'r llall neu o gwmwl i'r aer neu i'r ddaear

Beth ddylen ni ei wneud mewn storm o fellt a tharanau?

c3_llun1.jpg

  • Mae mynd ar eich pengliniau a'ch dwylo gan gadw eich pen i lawr yn llawer mwy diogel na gorwedd yn wastad. Mae gorwedd yn wastad yn rhoi gwell cyfle i fellten eich taro.
  • Mae mynd yn agos at goed yn beryglus.
  • Os ydych mewn grŵp o bobl mae'n syniad da i chi gadw tua 15 troedfedd oddi wrth eich gilydd.
  • Nid yw nofio neu snorclo yn ddiogel oherwydd mae dŵr yn ddargludydd trydan ardderchog.
  • Mae pwll bach o ddŵr yn beryglus mewn storm o fellt a tharanau.
  • Mae leiniau dillad a ffensys yn beryglus am eu bod wedi eu gwneud o fetel.
  • Yn y tŷ, dylech osgoi dŵr a pheidio â chymryd cawod, golchi llestri, golchi dillad na'ch dwylo.
  • Gall mellten daro gwifren ffôn, felly mae defnyddio ffôn y tŷ'n beryglus.
  • Mae unrhyw offer trydanol fel cyfrifiadur yn beryglus hefyd.
  • Dydy sefyll wrth ffenest ddim yn syniad da.

Cofiwch, os ydych yn clywed taran ewch i'r tŷ neu i'r car ar unwaith, ac os ydych chi'n teimlo eich gwallt yn sefyll i fyny neu eich croen yn cosi efallai bod mellten ar fin taro...

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
chwilboeth poeth iawn, iawn red-hot
seindonau mae sain yn teithio drwy'r aer ar y rhain sound waves
igam ogam symud ymlaen i'r dde ac i'r chwith bob yn ail zig-zag
fforchog siâp fforc forked
dargludydd rhywbeth sy'n cario trydan, gwres ac ati conductor