Eira, eira hwyr y dydd

Rhifyn 5 - Y Tywydd
Eira, eira hwyr y dydd

Eira, eira hwyr y dydd

Eira, eira, hwyr y dydd.
Lloer o'i harffed ddiwedydd
yn hau ceinioge newydd,
Eira, eira hwyr y dydd.

Eira, eira hwyr y dydd
fel cen lond pen y pinwydd.
Trwch fel conffeti ar wydd.

Lleuad wen fel gobennydd,
plu'r cwd yn pylu'r coedydd
Eira, eira hwyr y dydd.

Eira, eira, hwyr y dydd,
Fel gefail y gaeafwydd,
Gwreichion gwyn ar derfyn.

Eira, eira hwyr y dydd
Siampaen, siampaen yw'r pinwydd,
Eira, eira hwyr y dydd.

Alan Llwyd

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
arffed côl, glin lap
cen darnau bach o groen marw yng ngwallt rhywun dandruff
pinwydd coed pîn pine trees
gefail teclyn haearn sy'n gafael yn dynn, gweithdy gof tongs, forge
gwreichion darnau bach tanllyd sy'n neidio o'r tân sparks