Mae rhai ardaloedd yng Nghymru wedi dioddef yn enbyd oherwydd llifogydd dros y blynyddoedd diwethaf. Nid oes modd atal llifogydd yn llwyr, ond gallwn baratoi ar eu cyfer. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cyhoeddi gwybodaeth a fydd o gymorth cyn llifogydd, yn ystod llifogydd, ac wedi i'r dŵr gilio.
Mae'n bwysig eich bod yn gwybod mai eich cyfrifoldeb chi yw amddiffyn eich eiddo, nid yr Awdurdod Lleol.

Dyma rai o'r pethau y dylech eu gwneud:
- Gwrando ar eich gorsaf radio leol i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â'r llifogydd.
- Paratoi bagiau tywod i rwystro'r dŵr rhag dod trwy ddrysau.
- Cymryd yn ganiataol bod dŵr llifogydd yn cynnwys carthion.
- Gwisgo menig plastig / rwber pan fyddwch yn trin eitemau sydd wedi bod yn y dŵr.
- Paratoi pecyn arbennig ar gyfer llifogydd, yn cynnwys fflachlamp, blancedi, dillad cynnes sy'n dal dŵr, welingtons, radio a batris, pecyn cymorth cyntaf, menig rwber, bwyd, bwyd anifeiliaid anwes, a meddyginiaeth.
- Cadw'r pecyn ar y llawr uchaf os yn briodol.
- Diffodd y cyflenwad nwy, dŵr a thrydan ar unwaith.
- Symud eich anifeiliaid anwes i le diogel.
- Os yw cyflwr y ffyrdd yn addas a diogel, symud eich cerbydau i ardal lle na fydd llifogydd.
- Os yw'n angenrheidiol eich symud o'r tŷ, cysylltu â'r Heddlu neu ffonio 999.
- Os ydych yn symud, rhoi gwybod i'r Gwasanaethau Brys i ble'r ydych wedi mynd.
- Os ydych wedi eich caethiwo yn y tŷ oherwydd y llifogydd, sefyll yn y ffenest a cheisio tynnu sylw rhywun.
- Osgoi dŵr sy'n llifo. Gall chwe modfedd o ddŵr fwrw oedolyn i'r llawr.
Dyma rai o'r pethau na ddylech eu gwneud:
- Caniatáu i blant chwarae yn y llifogydd.
- Taflu sbwriel i ffosydd ac afonydd, a pheidiwch â'i adael ar y dorlan - gall hynny waethygu'r sefyllfa'n arw.
- Defnyddio offer trydanol sydd wedi gwlychu nes bo trydanwr wedi bwrw golwg drostynt.
- Defnyddio bwyd sydd wedi cael ei halogi gan ddŵr llifogydd.
- Defnyddio dŵr sydd wedi cael ei halogi yn ystod y llifogydd i olchi llestri, glanhau'ch dannedd, golchi a pharatoi bwyd a gwneud rhew na'i yfed.
- Taflu nwyddau sydd wedi cael eu difrodi nes i'ch cwmni yswiriant eu harchwilio.
