Mae'r ffordd yn rhuban sidan
yn llifo'n ddu o'm blaen,
a'r lori'n chwyrnu'n isel
wrth deithio 'mlaen a 'mlaen.
Mae'r goleuadau oren
sy'n gwibio heibio'n fflach
yn gwneud i'r nos ddiflannu
fel haul y bore bach.
Af nawr i'r gwasanaethau
a'u croeso disglair, mawr;
caf yno fwyd a diod
beth bynnag ydy'r awr.
Ond wedyn, rhaid dychwelyd
i'r ffordd ddiderfyn, ddu,
i lywio'r lori'n ddiogel
drwy draffig mawr ei su.
Mae diesel yn fy ngwaed i:
Rwy'n gwybod yn y bôn
Na fyddwn byth yn hapus
Pe na bawn ar y lôn.
Lluniau: Highways Agency a nzbuu
Elin MeekCymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
fflach | golau sydyn | flash |
di-derfyn | byth yn gorffen | never-ending |
su | sŵn gwenyn | buzz |
yn y bôn | go iawn, mewn gwirionedd | really, basically |
pe na bawn | taswn i ddim | if I wasn't |