Ffeithiau sydyn am y galon. Mae'r galon:
Os yw rhywun yn bwyta gormod o fraster, mae'n crynhoi yn y rhydwelïau. Mae'r galon yn gorfod gweithio'n galetach i bwmpio'r gwaed drwyddyn nhw. Yn y pen draw, mae'r person yn dioddef o glefyd y galon ac efallai'n cael trawiad ar y galon.
Sut mae osgoi clefyd y galon:
Roedd pobl yn arfer meddwl bod enaid person yn trigo yn y galon. Felly, roedden nhw'n credu mai yn y galon roedd person yn gwneud penderfyniadau ysbrydol, moesol, ac emosiynol.
Dros y canrifoedd, daeth y galon yn symbol o gariad. Fel arfer, mae'r galon yn goch, lliw sy'n cyfleu gwaed a hefyd emosiwn ac angerdd.

| Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
|---|---|---|
| gellygen | ‘persen’ | a pear |
| newydd anedig | newydd gael ei/eu g/eni | newborn |
| crynhoi | casglu | to accumulate |
| rhydwelïau | y pibellau y mae’r gwaed yn mynd drwyddyn nhw | arteries |
| enaid | ‘ysbryd’ person | soul |
| trigo | byw | to reside |
| cyfleu | awgrymu | to suggest, convey |
| angerdd | teimlad cryf iawn | passion |